Pwyllgor Cyfle Cyfartal i ystyried ymateb y Llywodraeth i’w adroddiad ar wasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl

Cyhoeddwyd 08/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cyfle Cyfartal i ystyried ymateb y Llywodraeth i’w adroddiad ar wasanaethau ar gyfer pobl ifanc anabl

Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal cyfarfod ychwanegol yr wythnos hon i drafod ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w adolygiad o wasanaethau ar gyfer pobl Ifanc anabl. Roedd adolygiad y Pwyllgor yn edrych ar feysydd fel addysg a hyfforddiant, trafnidiaeth, byw’n annibynnol a deddfwriaeth.  Roedd yr adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn gwneud cyfanswm o ddeugain o argymhellion pellgyrhaeddol.  Roedd y rhain yn cynnwys rhoi mwy o ran i bobl ifanc anabl ddewis eu gofalwyr eu hunain, gwell gweithdrefnau cwyno a sicrhau bod tai ar rent mwy addas ar gael. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Gwenda Thomas AC ei bod yn gobeithio y byddai’r adolygiad yn annog rhai eraill a fydd yn gwneud polisïau a phenderfyniadau yn y dyfodol i weld y budd o weithio’n uniongyrchol ac yn briodol mewn partneriaeth gyda phobl ifanc wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau. Cynhelir y cyfarfod i drafod ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru am 2pm ddydd Iau 8 Mawrth yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.   Manylion llawn ac agenda: Yn yr un cyfarfod bydd Aelodau yn ystyried adroddiad blynyddol y Pwyllgor a’i adroddiad sydd i’w gyflwyno i’r Trydydd Cynulliad.