Pwyllgor Cyllid i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd 15/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cyllid i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gyfarfod nesaf ar Ionawr 17eg Bydd y Pwyllgor yn cwestiynu Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru am y gwario arfaethedig ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Mae’r Pwyllgor a minnau’n edrych ymlaen at y cyfle olaf hwn i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau bod y gyllideb yn gwasanaethu pobl Cymru yn y modd gorau posib a bod gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel yn cael eu darparu.  Cafodd y gyllideb ddrafft ei chraffu’n ofalus iawn ac edrychaf ymlaen at weld a yw’r Llywodraeth wedi ystyried y materion a godwyd gan y Pwyllgor.” Mwy o fanylion am y Pwyllgor