Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i archwilio costau'r achos o glwy'r Traed a'r Genau

Cyhoeddwyd 03/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i archwilio costau'r achos o glwy'r Traed a'r Genau

Mae Pwyllgor pwysig yn y Cynulliad yn mynd i archwilio costau’r achos diweddar o glwy’r traed a’r genau. Mae’r Pwyllgor Cyllid am edrych ar yr effaith a gaiff yr achos ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynllunio cyfarfod yn yr hydref ac yn y cyfarfod hwnnw bydd yn cymryd tystiolaeth ar effaith ariannol yr achos a’r lefelau o iawndal tebygol a ddisgwylir allan o gyllideb y Cynulliad. Mae’r Pwyllgor yn disgwyl gwrando ar dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales, a’r Gymdeithas Arwerthwyr Da Byw. Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Gymdeithas: “Er eu bod yn bell o graidd yr achos, mae’r cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn cael effaith pellgyrhaeddol ar farchnadoedd da byw Cymru ac yn eu tro ar y ffermwyr sydd yn eu cynhyrchu.  ’R wyf wedi siarad ag undebau’r amaethwyr a gwn eu bod yn fodlon dod i siarad â’r Pwyllgor. Byddwn hefyd yn gwahodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig i’r cyfarfod. Hoffem glywed pa archwiliadau y mae hi’n eu gwneud a beth, os rhywbeth, yw ei chynlluniau ynghylch iawndal posibl i ffermwyr Cymru.” Nodyn i olygyddion: Cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid yw sicrhau craffu priodol ar gyllid a gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hyn ac amryw o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyrff y GIG. Mwy o fanylion