Pwyllgor Cyllid yn galw am dryloywder yng ngwariant Llywodraeth Cymru mewn perthynas â COVID-19

Cyhoeddwyd 12/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2020

Fel rhan o’i waith i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, mae Pwyllgor Cyllid y Senedd heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad sy’n ymdrin ag Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru. Mae'r gyllideb atodol hon yn cynnwys llawer o'r cyhoeddiadau diweddar yn ymwneud â chyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau'r GIG sy'n canolbwyntio ar reoli'r achosion o COVID-19. 

Mae'r adroddiad - Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 - ar gael yma

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n canslo Cyllideb Hydref y DU. Fodd bynnag, mi fydd Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad o wariant blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid tymor hwy yn golygu fod cynllunio at y dyfodol yn anoddach ar gyfer gwasanaethau fel y GIG yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn pryderu am y diffyg sicrwydd sydd wedi ei roi i Lywodraeth Cymru. Mae'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru, yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22, geisio darparu eglurder i randdeiliaid ar gyllidebau y tu hwnt i gyfnod o flwyddyn, er gwaetha’r ansicrwydd sy'n deillio o fwriad Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad o wariant.

Gwarant cyllid coronafeirws Llywodraeth y DU

Ym mis Gorffennaf (£1.2 biliwn) a mis Hydref (£400 miliwn) cyhoeddodd Llywodraeth y DU warantau cyllid ar gyfer y llywodraethau datganoledig er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â'r achosion o COVID-19.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r gwarantau cyllid hyn i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae cyhoeddiadau rheolaidd Llywodraeth y DU yn golygu bod y darlun o ran cyllid COVID-19 yn ddryslyd i'r gweinyddiaethau datganoledig, gan nad yw’n glir beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. Pan fydd cyhoeddiad newydd yn cael ei wneud, ar ôl i'r warant gael ei rhoi, mae yn aml yn aneglur a yw hyn wedi'i gynnwys yn y warant ynteu a yw'n ychwanegol at y warant. Mae’r Pwyllgor yn pryderu am y ffordd yma o weithio a'i effaith ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran cynllunio a gwariant ar gyfer gwasanaethau a sefydliadau.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys argymhellion gyda rhywfaint o fanylion am wariant, gan gynnwys galw ar i Lywodraeth Cymru:

  • ddarparu dadansoddiad o gostau datgomisiynu ysbytai maes

  • darparu manylion pellach am unrhyw gyllid dilynol ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu

  • darparu manylion pellach am y cymorth ariannol i ddarparwyr trafnidiaeth

“Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ill dwy yn canolbwyntio ar bandemig y coronafeirws ac mae symiau enfawr o arian yn cael eu dyrannu a’u gwario mewn cyfnod byr iawn. Mae pawb yn awyddus i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a dinasyddion Cymru yn ystod yr adeg bryderus hon. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn pryderu am y diffyg eglurder ynghylch sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, ac rydym yn awyddus i gael mwy o fanylion. Yn benodol, rydym am wybod sut mae arian ar gyfer y GIG yn cael ei wario, gan gynnwys y system Profi, Olrhain, Diogelu, a'r symiau mawr o arian sy'n cefnogi darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae diffyg tryloywder yn y ffordd y mae arian yn llifo rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac nid yw’n helpu Llywodraeth Cymru i gynllunio cyllid ar gyfer gwasanaethau a sefydliadau. I gynllunio a gwario yn gywir, mae angen sicrwydd a chysondeb ar Lywodraeth Cymru. Hefyd, mae pob cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn cael effaith ariannol bosibl ar gyllideb Cymru - er enghraifft, o ran y cyfyngiadau symud yn Lloegr.

“Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithio’n well gyda’i gilydd o hyn ymlaen er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder a sicrwydd i gyrff cyhoeddus, ac i bawb sy’n dibynnu ar arian cyhoeddus, i sicrhau bod arian yn cael ei wario’n effeithiol.” - Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Mae'r adroddiad - Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 - ar gael yma