Pwyllgor Cynaliadwyedd i gymryd tystiolaeth gan grwpiau amgylcheddol ar leihau gollyngiadau carbon
Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yr wythnos hon yn cymryd tystiolaeth gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, y Ganolfan Dechnoleg Amgen a Chyswllt Amgylchedd Cymru – y corff mantell ar gyfer mudiadau amgylcheddol gwirfoddol. Dyma’r cyntaf o dair sesiwn lle bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth ar sut y gellir lleihau gollyngiadau carbon o gartrefi.
Yn yr un cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn ystyried deiseb ar M Tan Glo – y rheoliad cynllunio sy’n rheoli cloddio glo brig.
Mae’r ddeiseb hon yn galw am M TAN Glo cryfach ar gyfer Cymru gyda rhagdybiaeth yn erbyn cloddio glo brig ar gyfer unrhyw geisiadau newydd neu estyniadau o hyn ymlaen.
Cynhelir y cyfarfod am 9.30am ddydd Iau 11 Hydref yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd.
Mwy o fanylion am y Pwyllgor a’i ymchwiliad