Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cyhoeddi adroddiad yn galw am ardoll ar fagiau plastig

Cyhoeddwyd 05/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/03/2015

Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cyhoeddi adroddiad yn galw am ardoll ar fagiau plastig

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw’n cyhoeddi ei adroddiad ar y ddeiseb ynghylch gwahardd bagiau plastig.  Yn dilyn cyfnod o chwe mis o gasglu tystiolaeth, mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi ardoll ar y defnydd o fagiau plastig wrth fannau talu.  Mae adroddiad y pwyllgor yn awgrymu y dylid defnyddio’r arian a godir o’r ardoll i ariannu prosiectau amgylcheddol yng Nghymru.  Mae amcangyfrifon yn nodi y gallai ardoll o 10c y bag greu refeniw blynyddol gwerth £6.48 miliwn.

Mae’r adroddiad yn tarddu o ddeiseb a gyflwynwyd i’r Cynulliad gan Neil Evans o Sir Gaerfyrddin, a gymerodd ran mewn prosiect gan y BBC i awgrymu deddfau newydd i Gymru.  Enillodd ei awgrym bleidlais gyhoeddus a chafodd ei ddeiseb ei chyflwyno i’r Pwyllgor Deisebau a’i hanfonodd ymlaen at y Pwyllgor Cynaliadwyedd.

Eglura Mick Bates AC, Cadeirydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad:  

“O’r dystiolaeth yr ydym wedi ei derbyn, rydym yn cydnabod bod angen i’r Llywodraeth ymyrryd er mwyn rheoli’r defnydd o fagiau plastig untro gan ei fod yn cynrychioli symbol pwysig a gweladwy o effaith amgylcheddol dewisiadau defnyddwyr.                           

“Mae gennym bryderon am allu Cymru i orfodi gwaharddiad unochrog ar fagiau plastig.  Nid yn unig y byddai’n gofyn am nifer fawr o adnoddau i’w blismona, ond hefyd mae materion i’r cymunedau hynny sy’n byw’n agos i’r ffin â Lloegr.  Nid ydym yn ystyried y byddai gwahardd bagiau plastig yng Nghymru’n ddewis ymarferol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.                          

“Cred y pwyllgor mai cyflwyno ardoll yw’r dull gorau a’r dull mwyaf ymarferol o ymyrryd y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud ac y dylid defnyddio’r elw a wneir o ardoll o’r fath er lles amgylcheddol.

“Buan y gwêl defnyddwyr Cymru y gall newid bach yn eu hymddygiad prynu a gwaredu gael effaith mawr ar yr amgylchedd yn fuan iawn.”

Clywodd Aelodau’r pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Cadwch Gymru’n Daclus; Cymdeithas Cadwraeth y Môr; Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau a Chonsortiwm Mânwerthu Prydain.

Adroddiad llawn

Nodiadau i’r Golygyddion

:

  1. Bydd gan Weinidogion Cymru’r pwerau i roi ardoll o dan gymal newydd yn y Mesur Newid yn yr Hinsawdd y disgwylir iddo gwblhau ei daith drwy’r Senedd ym mis Tachwedd.                                                

  2. Amcangyfrifir bod 648 miliwn o fagiau plastig yn cael eu dosbarthu yng Nghymru bob blwyddyn;

Caiff bron y cyfan o’r rhain eu dosbarthu ‘yn rhad ac am ddim', er, gan ddefnyddio ffigurau a amcangyfrifwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus, mae cost cudd y bagiau hyn yn fwy na £6 miliwn y flwyddyn i ddefnyddwyr Cymru.  Amcangyfrifir y cymer rhwng 450 a 1,000 o flynyddoedd i fag plastig ddiraddio.

3. Dyma amcangyfrif o’r symiau y gellid eu codi drwy ardoll:

  • Gydag ardoll o 10c y bag, byddai’r refeniw blynyddol o’r ardoll yn £6.48 miliwn;

  • Gydag ardoll o 15c y bag, byddai’r refeniw blynyddol yn £9.72 miliwn;

  • Gydag ardoll o 20c y bag, byddai’r refeniw blynyddol yn £13.96 miliwn.  

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ddeiseb yn galw am wahardd bagiau plastig yng Nghymru