Pwyllgor Cynulliad i graffu ar y modd y caiff cyllid yr Undeb Ewropeaidd ei ddefnyddio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/01/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i graffu ar y modd y caiff cyllid yr Undeb Ewropeaidd ei ddefnyddio yng Nghymru

29 Ionawr 2010

Mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i sut y caiff Cronfeydd Strwythurol yr UE eu defnyddio yng Nghymru ac mae am glywed gan bobl sydd â phrofiad o weithio gyda’r cronfeydd neu sy’n gwybod amdanynt.

Diben ymchwiliad y Pwyllgor yw edrych ar amrywiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â gweithredu’r cronfeydd, gan ganolbwyntio ar y cyfnod rhaglennu 2007-13.

Mae Cymru yn gymwys i gael y cyllid hwnnw o ganlyniad i’w statws economaidd a rhwng 2007 a 2013, caiff tua £2 biliwn o arian yr UE ei gyfeirio at Gymru. Caiff ei reoli gan gangen o Lywodraeth Cymru a’r bwriad yw defnyddio’r arian hwnnw i greu swyddi ac annog twf economaidd.

Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor yn cynnwys: hynt y cronfeydd hyd yma - gan gynnwys targedau ac a ydynt wedi cael eu cyflawni; sut y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r cronfeydd wrth ymateb i’r dirwasgiad; sut y caiff yr arian ei ddosbarthu ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw, a chynaliadwyedd y prosiectau ar ôl 2013.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Bydd hwn yn ymchwiliad eang o ran ei ystyriaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â Chronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru: o’r broses o wneud ceisiadau i’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

“Bwriad y Cronfeydd Strwythurol yw creu economi mor gystadleuol a chynaliadwy â phosibl yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor am ganfod sut y mae’r arian yn gweithio i gyflawni hyn ac mae am glywed eich barn chi am y pwnc pwysig hwn.”

Hoffai’r Pwyllgor gael tystiolaeth ysgrifenedig (heb fod yn hwy na phum ochr A4) y dylid ei gyflwyno erbyn 25 Chwefror. Gallwch anfon copi electronig o’ch cyflwyniadau at Glerc y Pwyllgor yn enterprise.learning.comm@wales.gsi.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Glerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Menter a Dysgu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Stryd y Pierhead, Caerdydd CF99 1NA.

Gwyboddaeth ychwanegol

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Strwythurol yr UE a’r bwrdd rheoli yng Nghymru, sef Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn http://wefo.wales.gov.uk/?skip=1&lang=cy.

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i edrych ar y materion a ganlyn fel rhan o’i ymchwiliad:

  • Y broses o wneud cais

  • Cynnydd hyd yma (ee yr hyn a gyflawnwyd yn erbyn y targedau, gwariant gwirioneddol hyd yma) a chymhariaeth â rhaglenni 2000-06 ar yr adeg gyfatebol

  • Trefniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwerthuso prosiectau a rhaglenni

  • Sut y caiff arian ei ddosbarthu ar draws prosiectau a gaiff eu harwain gan y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw

  • Lefel cyfranogiad yn y sectorau preifat a dielw

  • Cynaliadwyedd prosiectau ar ôl 2013

  • Dadansoddi i weld pwy sy’n elwa ar y prosiectau fwyaf (yn ôl lleoliad daearyddol a sector, gan gynnwys busnes, pobl, adfywio cymunedol, yr amgylchedd a thrafnidiaeth)

  • Defnyddio prosesau caffael wrth gyflawni prosiectau

  • Sut mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r Cronfeydd Strwythurol wrth ymateb i’r dirwasgiad

  • Effaith posibl cyllidebau sector cyhoeddus tynnach dros y blynyddoedd nesaf

  • Prosiectau yn yr arfaeth a llif prosiectau. Meysydd lle mae gormod o alw ac eraill lle nad oes digon

  • A oes arian cyfatebol ar gael ai peidio

  • Effaith y cynnydd mewn cyfraddau ymyrraeth a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009.