Pwyllgor Cynulliad i gwrdd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth

Cyhoeddwyd 09/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i gwrdd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth

Bydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 15 Mai yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 2.30p.m.

Bydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad presennol i leihau allyriadau carbon yng Nghymru. Mae’r pwyllgor wedi bod yn cynnal yr ymchwiliad ers mis Hydref ac oherwydd maint y prosiect, rhannwyd yr ymchwiliad yn chwe rhan. Mae pedwerydd rhan yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gynhyrchu trydan ac felly caiff Aelodau’r Cynulliad glywed tystiolaeth gan arbenigwyr y ganolfan am ynni adnewyddadwy a microgynhyrchu.

Cyn y cyfarfod, bydd aelodau’r pwyllgor yn ymweld â Phrosiect Gorgors Fyw LIFE, sy’n bartneriaeth rhwng y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, gyda chyllid hefyd yn dod o raglen LIFE-Nature yr Undeb Ewropeaidd, i geisio canfod ffeithiau ar gyfer cam nesaf ymchwiliad y pwyllgor i leihau allyriadau carbon drwy ddefnyddio’r tir. Mae gorgorsydd yn storfeydd carbon pwysig, a thros y blynyddoedd maent wedi cadw llawer iawn o garbon. Mae gorgorsydd sydd wedi’u niweidio yn gollwng llawer iawn o garbon deuocsid, methan ac ocsidau nitraidd, nwyon ty gwydr yr honnir iddynt fod yn rhannol gyfrifol am gynhesu byd-eang.

Meddai Mike German, cadeirydd dros dro y pwyllgor: ‘Yr wyf wrth fy modd bod y pwyllgor am gynnal ei gyfarfod y tu allan i’r Senedd. Mae mor bwysig bod gwleidyddion yn teithio y tu hwnt i’r Senedd a’u hardaloedd eu hunain o bryd i’w gilydd fel y gallant weld y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae mynd â’r pwyllgor allan o Fae Caerdydd, i weld rhai o’r pethau da sy’n digwydd yng Nghymru, a sut y gallwn wneud newidiadau, yn rhan allweddol o waith y pwyllgor.

Yr wyf yn teimlo’n gryf iawn o blaid y potensial y mae microgynhyrchu yn ei gynnig i ddyfodol cynhyrchu trydan. Bydd y pwyllgor am weld a chlywed yr hyn sydd gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen i’w ddweud am hyn ac am ffyrdd eraill o leihau effeithiau cynhesu byd-eang.’

Cynhelir y cyfarfod yn y theatr gwellt yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth rhwng 2.30pm a 4.00pm.

Gwybodaeth bellach am y pwyllgor