Pwyllgor Cynulliad i gwrdd yn y Sioe Frenhinol

Cyhoeddwyd 15/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i gwrdd yn y Sioe Frenhinol

Bydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cwrdd ddydd Mercher 23 Gorffennaf ym mhafiliwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd y pwyllgor yn trafod deiseb sy’n galw ar y Cynulliad i annog y Gweinidog dros Dreftadaeth i wneud popeth o fewn ei allu er mwyn sicrhau bod Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy yn aros ar agor gyda deisebwyr lleol ac yn trafod â deisebwyr sy’n galw am bapur newydd dyddiol Cymraeg.  Bydd yr Aelodau hefyd  yn edrych ar ddeisebau newydd a ddaeth i law ers y cyfarfod diwethaf a’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol.   

Meddai Val Lloyd AC, cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r system ddeisebau yn rhoi cyfle i bobl Cymru gysylltu â ni ynghylch materion sy’n bwysig iddynt. Mae’r materion hyn yn aml yn rhai lleol ac rydym yn falch iawn bod Sioe Frenhinol Cymru yn rhoi cyfle i ni drafod y mater penodol hwn â phobl leol, yn ogystal â dangos i bobl o rannau eraill o Gymru bod modd i’r Cynulliad helpu gyda materion lleol neu faterion o bwys cenedlaethol.”  

Cynhelir y cyfarfod ym Mhafiliwn y Cynulliad Cenedlaethol ar faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, rhwng 2.00pm a 4.00pm.

Mwy o wybodaeth am y pwyllgor ynghyd ag agenda

Nifer cyfyngedig o seddi i'r cyhoedd sydd yn y cyfarfod, ac felly awgrymwn yn gryf eich bod yn cadw lle ymlaen llaw. I gadw sedd, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk. Gan fod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Sioe Frenhinol Cymru, bydd yn rhaid talu pris mynediad i’r maes.