Pwyllgor Cynulliad i gyfarfod yng Nghei Conna

Cyhoeddwyd 21/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad i gyfarfod yng Nghei Conna

Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei gyfarfod nesaf ddydd Gwener, 25 Ebrill ym Nghei Conna. Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod am 9.00 y bore yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy. Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad cyfredol i gyfraniad economaidd Addysg Uwch. Bydd yr Aelodau’n clywed cyflwyniadau gan Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru, Fforwm, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Llandrillo ac Airbus UK. Ar ôl y cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn mynd i Airbus UK ym Mrychdyn i gael taith o gylch y cyfleusterau. Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r sector addysg uwch yn wynebu heriau niferus sy’n amrywio o ariannu at gyfrannu at wella sgiliau’r gweithlu yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn bod Pwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod mewn rhannau o Gymru ar wahân i Gaerdydd gan bod hyn yn galluogi Aelodau i weld dyheadau cymunedau mewn gwahanol ran o’r wlad.                                               Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn  Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Cei Connah, Sir Fflint rhwng 9.00am ac 11.00am. Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor ac agenda