Pwyllgor Cynulliad yn cefnogi deddfwriaeth newydd mewn ymdrech i gyrraedd targedau tlodi plant

Cyhoeddwyd 22/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn cefnogi deddfwriaeth newydd mewn ymdrech i gyrraedd targedau tlodi plant

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi Mesur arfaethedig Llywodraeth Cymru ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru).

Ar ôl ymchwiliad o dri mis, mae Aelodau’r Pwyllgor yn teimlo bod angen y Mesur arfaethedig er mwyn gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant.

Bydd y Mesur yn darparu mwy o gefnogaeth i deuluoedd sydd, o bosibl, â phlant mewn perygl ac yn cryfhau gorfodaeth reoleiddiol mewn lleoliadau plant.

O dan y cynigion bydd yn ofynnol ar ‘awdurdodau Cymreig’, gan gynnwys awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, i baratoi a chyhoeddi strategaethau i fynd i’r afael â thlodi plant. Bydd rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar gynnydd eu gwaith bob tair blynedd.

Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er mwyn sicrhau bod cynnydd o ran dileu tlodi plant yng Nghymru ar flaen y gad a’i fod yn cael ei fonitro’n rheolaidd i wneud yn siwr bod unrhyw broblemau’n cael eu hadnabod cyn gynted â phosibl, rydym yn argymell bod Gweinidogion Cymru’n cyflwyno adroddiad dros dro bob blwyddyn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Cynulliad priodol.

“Rydym hefyd yn credu y dylai’r Mesur osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau Cymreig i ymgynghori â’r sefydliadau perthnasol yn y sector gwirfoddol wrth baratoi eu strategaethau.”

Mae’r Mesur arfaethedig hefyd yn darparu ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd i blant, cyfleoedd chwarae i blant, plant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol a sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd.

Bydd y Cynulliad yn trafod y Mesur arfaethedig ar 30 Mehefin. Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol, bydd y Mesur yn cael ei ystyried gan bwyllgor o dan gyfnod 2.

Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 - Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) (Cyfnod 1)