Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar ysgolion gwledig

Cyhoeddwyd 28/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar ysgolion gwledig

Heddiw (ddydd Iau), lansiodd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ei adroddiad, YMCHWILIAD I AD-DREFNU YSGOLION YNG NGHEFN GWLAD CYMRU. Mae’r adroddiad yn ganlyniad ymchwiliad chwe mis i’r modd y darperir addysg mewn ysgolion cynradd gwledig yn dilyn deiseb gan Grŵp Gweithredu Ysgolion Cymunedol Powys. Ystyriodd y pwyllgor yn benodol a oes materion cymdeithasol ac addysgol ehangach ynghlwm wrth ad-drefnu ysgolion cynradd, materion fel yr effaith ar gymunedau, teuluoedd a phlant a’r modd y caiff y rhain eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.  

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd Aelodau’r pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, academyddion, cyrff statudol a grwpiau lobïo a oedd yn cynnwys deisebwyr a rhieni.  

Edrychodd y pwyllgor hefyd ar y canlynol:

  • enghreifftiau o ad-drefnu yng nghefn gwlad Cymru ac mewn llefydd eraill er mwyn deall y prosesau a dysgu oddi wrth unrhyw ddulliau arloesol;  

  • polisïau a chanllawiau presennol ac arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ac a ydynt yn ymdrin yn ddigonol â’r materion ehangach a allai fod yn gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion cynradd gwledig; a

  • swyddogaeth Estyn wrth adrodd ar ysgolion ac awdurdodau addysg lleol.

Gwneir 14 o argymhellion yn yr adroddiad gan gynnwys galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gynnig gwell canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut i reoli newid ac i  ymgynghori â chymunedau lleol ar benderfyniadau yn y dyfodol mewn perthynas ag addysg gynradd yn eu hardaloedd.

Dywedodd Alun Davies AC, Cadeirydd y pwyllgor:

“Roedd pob aelod o’r pwyllgor yn ymwybodol o ddechrau’r ymchwiliad o gryfder teimladau pobl. Mae dyfodol ysgolion bach gwledig wedi bod yn destun dadlau brwd ledled Cymru.

“Rwy’n gobeithio bod ein casgliadau’n cynnig arweiniad clir i Lywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol ynghylch sut i ddiffinio eu strategaethau yn y dyfodol ar gyfer ad-drefnu a rheoli newid. Un o swyddogaethau a chyfrifoldebau pob Llywodraeth yw diogelu ansawdd bywyd ei dinasyddion a hyrwyddo lles ein cymunedau, waeth beth yw eu maint, eu daearyddiaeth na’u cyfoeth. Bydd yr adroddiad hwn, gobeithio, yn rhoi’r grym i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn cynnig canllawiau clir ynghylch sut i weithredu yn y dyfodol.

“Gofynnwyd i ni gynnal yr ymchwiliad yn dilyn deiseb gan grŵp o rieni o Bowys. Gobeithiaf y byddant hwy ac eraill yn cydnabod bod yr ymchwiliad hwn a’r adroddiad sy’n deillio ohono yn dangos sut y mae gan bobl Cymru bellach y pwer i lunio agenda’r Cynulliad Cenedlaethol a gwaith ei bwyllgorau.”

Gellir cael copïau o’r adroddiad gan:

Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Ffôn: 029 2089 8148

E-bost: claire.morris@wales.gsi.gov.uk

Bydd fersiwn electronig o’r adroddiad ar gael ar wefan y pwyllgor: http://www.cynulliadcymru.org

Nodiadau i olygyddion:

  1. Aelodau’r pwyllgor yw Alun Davies AC, y Cadeirydd, Mick Bates AC, Brynle Williams AC a Rhodri Glyn Thomas AC.

  2. Gwreiddiau’r ymchwiliad. Derbyniodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol ddeiseb oddi wrth Gweithredu Ysgolion Cymunedol Powys ar 20 Medi 2007, a nododd: “Galwn ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal cymunedau Powys, y fwyaf

gwledig o siroedd Cymru, ac i atal a gwrth-droi’r pwysau ar Gyngor Sir Powys

i gau’r ysgolion sydd wrth galon y cymunedau hynny.” Yn dilyn hynny, gwahoddodd y Pwyllgor Deisebau yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i gynnal ymchwiliad i’r materion a oedd yn deillio o’r ddeiseb.