Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul a’r dulliau o’u rheoleiddio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul a’r dulliau o’u rheoleiddio yng Nghymru

Heddiw, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r defnydd o welyau haul a’r dulliau o’u rheoleiddio yng Nghymru, ac mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar y pwnc.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor, y penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad yn sgil ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o’r risgiau posibl i iechyd sy’n gysylltiedig â defnyddio gwelyau haul, yn enwedig pan fydd plant yn defnyddio salonau heb oruchwyliaeth.

“Mae’n ymddangos bod corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod defnyddio gwelyau haul dros gyfnod estynedig o amser yn y cynyddu’r risg o gael mathau penodol o ganser y croen,” meddai Darren Millar.

“At hynny, ceir pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd bod mwy o blant iau yn defnyddio gwelyau haul yn rheolaidd. Mae rhai defnyddwyr wedi llosgi’n ddrwg yn y gorffennol, ac yn yr achosion gwaethaf, mae’r risg o ganser wedi cynyddu.

“Ar hyn o bryd, nid oes dull effeithiol o reoleiddio’r modd y caiff gwelyau haul eu darparu a’u defnyddio yng Nghymru, ac mae’r Pwyllgor yn teimlo’n gryf y dylid gwneud gwelyau haul mor ddiogel â phosibl.”

Fel rhan o’i ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y rheini sy’n galw am ragor o reoleiddio a chan y diwydiant gwelyau haul ei hun.

“Os casglwn bod angen gwell rheoleiddio, gall y Pwyllgor argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael y pwerau cyfreithiol i ddeddfu ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau diogelwch y rheini sy’n defnyddio gwelyau haul yn y wlad,” meddai Mr Millar.