Pwyllgor Cynulliad yn lansio ymgynghoriad ar-lein ac ymgynghoriad Senedd ar ganiatâd tybiedig i roi organau

Cyhoeddwyd 17/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn lansio ymgynghoriad ar-lein ac ymgynghoriad Senedd ar ganiatâd tybiedig i roi organau

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i’r posibilrwydd o newid sut y mae organau’r corff yn cael eu rhoi yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor yn ystyried a yw’n bosibl cyflwyno system o Ganiatâd Tybiedig yng Nghymru ac a ddylid gwneud hyn. Mae rhoi organau’n bwnc sensitif ac mae’r Pwyllgor am glywed barn cymaint o bobl â phosibl o Gymru.    

Felly mae’r pwyllgor wedi lansio Ymgynghoriad Senedd ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r Senedd a swyddfeydd eraill y Cynulliad megis canolfan ymwelwyr y Gogledd ym Mae Colwyn. Bydd ymwelwyr yn derbyn gwybodaeth gefndir am yr ymchwiliad ac yna cânt gyfle i fynegi’u barn drwy lenwi holiadur byr.  

Mae’r Pwyllgor hefyd yn lansio fforwm trafod a phleidlais ar-lein ar y pwnc hwn yr wythnos hon.

Bydd y canlyniadau hyn yn rhan o’r dystiolaeth a gyflwynir i’r pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn seilio’i gasgliadau terfynol ar y dystiolaeth hon.  

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Nid oes llawer o amheuaeth y gall llawdriniaeth trawsblannu achub bywydau a gwella ansawdd bywyd y bobl sy’n cael organau newydd. Mae prinder enbyd hefyd o ran rhoddwyr organau.

“Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau bod safbwyntiau’r cyhoedd yn cael eu clywed.  Cyn newid y gyfraith ar roi organau, rhaid rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw newid a rhaid ystyried pryderon y cyhoedd.  

“Mae llawer o bobl yn ymweld â’r Senedd ac mae hwn yn ffordd effeithiol o glywed barn trawstoriad o’r cyhoedd.  Mae’r bleidlais a’r fforwm ar-lein yn gyfrwng arall i bobl fynegi’u barn ar y mater pwysig hwn.”