Pwyllgor Cynulliad yn lansio ymgynghoriad cyn cynnal ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru
21 Rhagfyr 2011
Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.
Mae aelodau’r Pwyllgor yn awr eisiau clywed tystiolaeth gan y cyhoedd a phartïon sydd â diddordeb, fel rhan o ymarferiad ymgynghori a fydd yn bwydo i mewn i broses yr ymchwiliad.
Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Gan fod canlyniad y refferendwm ar 3 Mawrth 2011 wedi rhoi pwerau deddfu eang i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, mae’r cwestiwn a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân wedi dod yn fater o ddiddordeb a thrafodaeth gyhoeddus.”
“Yn benodol, mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu ei fod yn bwriadu cychwyn trafodaeth gyhoeddus ynglyn ag a oes angen awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.
“Mae’r Pwyllgor yn credu bod y datblygiadau hyn yn rhoi cyfle da i bwyso a mesur agweddau technegol y cwestiwn hwn ac felly wedi cytuno i gynnal ymchwiliad.”
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu barn ar y materion penodol canlynol, ynghyd ag unrhyw fater perthnasol arall:
ystyr y term, “awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru”;
y manteision, rhwystrau a chostau posib sydd ynghlwm â chyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru;
goblygiadau ymarferol awdurdodaeth ar wahân i’r proffesiwn cyfreithiol a’r cyhoedd; a
gweithredu awdurdodaethau bach eraill yn y DU, yn enwedig rhai fel Gogledd Iwerddon sy’n defnyddio’r gyfraith gyffredin.