Pwyllgor Cynulliad yn mynegi pryder ynghylch paneli dyfarnu lleol ym Mil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

Cyhoeddwyd 12/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn mynegi pryder ynghylch paneli dyfarnu lleol ym Mil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

12 Hydref 2012

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad wedi cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn ei adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (12 Hydref).

Diben y Bil yw codi safonau mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’n ymdrin â nifer o feysydd polisi, gan gynnwys ymyrryd mewn ysgolion sy’n achosi pryder; trefniadaeth ysgolion; Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg; a’r fenter brecwast am ddim mewn ysgolion.

Fodd bynnag, mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch cyflwyno paneli dyfarnu lleol y darperir ar eu cyfer yn y Bil. Byddai’r paneli hynny yn penderfynu a ddylid caniatáu cynigion ar gyfer ad-drefnu ysgolion mewn achosion os bydd pobl yn eu gwrthwynebu. Er y cytunodd y Pwyllgor y dylai penderfyniadau ynghylch ad-drefnu ysgolion gael eu gwneud ar lefel leol, mynegodd bryderon ynghylch defnyddio paneli dyfarnu lleol a sut y byddent yn gweithio yn ymarferol.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: "Yn gyffredinol, mae’r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn a dyna oedd barn mwyafrif y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad."

"Rydym wedi gofyn i’r Gweinidog ail-edrych ar annibyniaeth paneli dyfarnu lleol a sut y byddant yn gweithio cyn cyfnod nesaf y broses graffu."

Ar hyn o bryd, mae’r Bil yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Hydref. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio ynghylch a ddylai’r Bil symud ymlaen i Gyfnod 2 lle byddai’n cael ei ystyried mewn mwy o fanylder a byddai Aelodau’n gallu cynnig gwelliannau iddo.