Pwyllgor Cynulliad yn pryderu am ddyfodol ffermydd awdurdodau lleol Cymru

Cyhoeddwyd 21/12/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn pryderu am ddyfodol ffermydd awdurdodau lleol Cymru

21 Rhagfyr 2010

Dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau dyfodol hir dymor ffermydd awdurdodau lleol yn ôl Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu ymchwiliad y Pwyllgor bod tir fferm yn cael ei werthu i arbed arian i gynghorau, ond nad oes llawer o arian yn cael ei ail-fuddsoddi i wella neu ychwanegu at gyflenwadau presennol.

Diben ffermydd awdurdod lleol yw rhoi mynediad at y diwydiant i bobl nad oes ganddynt yr adnoddau i sefydlu ei fferm ei hun cyn iddynt rentu tir yn breifat neu brynu hyd yn oed.

Clywodd y Pwyllgor nad oedd hyn yn digwydd mewn llawer o achosion gan fod

newydd-ddyfodiaid yn canfod nad oedd llawer i’w ysgogi i symud o’r ffermydd awdurdod lleol gan fod y cyfnodau rhentu ar gyfer tir preifat yn gymharol fyr ac oherwydd materion eraill yn ymwneud â chostau.

Hefyd, codwyd pryder am ystadegau swyddogol Llywodraeth Cymru a oedd yn honni bod nifer y ffermydd awdurdod lleol wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, pan fo gwaith ymchwil pellach wedi canfod fod y gwrthwyneb yn wir.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, sef Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig: “Yr hyn sydd gennym yw sector angof ond gwerthfawr,”

“Mae fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor a mi yn deall pam fod awdurdodau lleol o dan bwysau i gwrdd â thargedau ariannol ac efallai nad yw hwn yn faes blaenoriaeth i rai ohonynt.


“Fodd bynnag, mae dyfodol ein diwydiant ffermio yn dibynnu yn rhannol ar y bobl hynny sy’n ceisio cael mynediad at y tir ond efallai’n methu byw heb y cymorth ychwanegol hwn.

“Mae ansawdd a chywirdeb ystadegau Llywodraeth Cymru ar ffermydd awdurdod lleol hefyd yn fater o bryder i ni, ynghyd â safon rhai o’r tai fferm, sy’n syrthio’n is na’r hyn y byddwn yn disgwyl mewn tai arferol, gan eu bod yn cael eu trin fel adeiladau masnachol.”

Anfonwyd llythyr at Elin Jones AC, Gweinidog dros Faterion Gwledig Llywodraeth Cymru, gan yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn nodi ei gasgliadau.

DIWEDD