Pwyllgor Darlledu i barhau i gasglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd Pwyllgor Darlledu’r Cynulliad yn derbyn tystiolaeth gan y Gweinidog dros Dreftadaeth a swyddogion o S4C yn ei gyfarfod nesaf ar ddydd Llun Mehefin 2ail.
Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yng Nghymraeg ac yn Saesneg ac ar effaith newid i wasanaeth digidol a chreu llwyfannau darparu newydd ar gynhyrchu ac argaeledd rhaglenni a chynnwys digidol o Gymru ac yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor yn holi’r Gweinidog Rhodri Glyn Thomas AC a John Howells, Cyfarwyddwr Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Iona Jones prif weithredwr S4C a Cenwyn Edwards o Awdurdod S4C. Bydd yr Aelodau hefyd yn casglu tystiolaeth gan yr Athro Tom O’Malley o Brifysgol Aberystwyth.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgor 3, Y Senedd am ganol dydd.
Wybodaeth bellach am y pwyllgor a’i ymchwiliad