Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ei fod yn diweddaru ei ganllawiau ar gyfer rhoi gwrthiselyddion ar bresgripsiwn.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, y canlynol:
“Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r newid gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ac rydym yn falch bod ein hadroddiad ar ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn wedi bod yn rhan o’r newid yn ei agwedd.
"Gall gwrthiselyddion a meddyginiaethau presgripsiwn eraill fod yn gymorth mawr i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae barn gynyddol y gall fod yn anodd rhoi'r gorau i ddefnyddio rhai meddyginiaethau ac nad oes digon o gyngor ar gael i gleifion ar y dechrau.
"Yr hyn sy'n glir yw bod angen i ni wneud mwy i wella'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy’n derbyn y meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn.
“Mae cyhoeddiad heddiw gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn gam cadarnhaol tuag at hynny ac rydym bellach am i sefydliadau eraill a gwasanaethau iechyd ddilyn yr un trywydd.”