Pwyllgor Deisebau yn gweithredu’n gyflym wrth ystyried deiseb am garthffos yn sir Benfro

Cyhoeddwyd 24/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Deisebau yn gweithredu’n gyflym wrth ystyried deiseb am garthffos yn sir Benfro

24 Tachwedd 2011

Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi gweithredu’n gyflym wrth ystyried deiseb yn erbyn gosod carthffos gyhoeddus yn Freshwater East yn sir Benfro.

Mae’r ddeiseb yn nodi y byddai gosod y garthffos gyhoeddus yn cael effaith negyddol ar y gymuned yn Freshwater East—yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.

Mae’n honni nad oes angen carthffos gyhoeddus a bod y system garthffosiaeth breifat presennol yn foddhaol.

Mae’r deisebwyr yn dweud i’r mater gael ei gyfeirio i Dwr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru heb ymgynghori â thrigolion lleol ymlaen llaw.

Nawr mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd camau gorfodi yn erbyn Dwr Cymru—nad yw wedi gosod y garthffos gyhoeddus eto—ar 7 Rhagfyr.

O ystyried yr amserlen sydd dan sylw, gwnaed y penderfyniad i ysgrifennu at John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, cyn cyfarfod swyddogol y Pwyllgor ar 29 Tachwedd, pan fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod.

Yn unol â gweithdrefnau’r Pwyllgor Deisebau, gall Cadeirydd y Pwyllgor, William Powell AC, ysgrifennu at Weinidog cyn i ddeiseb ddod gerbron y Pwyllgor yn swyddogol, er mwyn cael sylwadau ar ei chynnwys.

Mae’r llythyr yn gofyn am y cefndir i benderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu yn y modd hwn ac mae’n gofyn i’r Gweinidog ystyried gohirio’r camau gorfodi fel y gellir ystyried y ddeiseb yn y modd priodol ac ymgynghori’n llawn â’r gymuned dan sylw.