Pwyllgor i archwilio profiadau plant mewn gofal “dros y pedair blynedd nesaf”

Cyhoeddwyd 01/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/09/2017

​Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio cyfres eang a manwl o ymchwiliadau yn edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc mewn gofal a fydd yn para dros hyd tymor y Cynulliad hwn. 

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi lansio ei ymchwiliad cyntaf yn y gyfres, sy'n canolbwyntio ar werth am arian gwasanaethau cyhoeddus i blant a phobl ifanc sy'n profi gofal.

Pan fydd plant a phobl ifanc yn gadael gofal â phroblemau cyffuriau, problemau iechyd meddwl ac addysg gwael, gall y canlyniadau gael effaith gydol oes. 

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yw 90 plentyn fesul 10,000 o bobl o gymharu â chyfradd o 60 fesul 10,000 o bobl yn Lloegr.  Rhwng 2010-11 a 2015-16, cynyddodd y gwariant ar wasanaethau i blant mewn gofal dros 35 y cant i £244 miliwn yn 2015-16.

Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd wedi profi gofal, gan sicrhau bod yr arian sy'n cael ei wario wedi'i dargedu yn y meysydd cywir ar yr amser cywir ar draws y bwrdd.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

"Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf yn y DU i bwyllgor seneddol ymrwymo i edrych ar y mater hwn dros yr hirdymor.  Rydym wedi cymryd yr agwedd hon am ein bod am sicrhau bod profiadau plant a phobl ifanc mewn gofal yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn cael sylw gwleidyddol go iawn.

"Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn ddiweddar fod plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal 'wedi'u cynrychioli'n sylweddol ormodol yn y system cyfiawnder troseddol ac yn y ddalfa'.  Dengys ystadegau o 2015 nad oedd 45 y cant o'r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 mlwydd oed mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. 

"Mae hyn yn annerbyniol, ac rydym yn gwybod bod eu profiadau o ofal yn cyfrannu at eu rhoi o dan anfantais wrth iddynt dyfu'n oedolion. 

"Rydym wedi cymryd yr agwedd unigryw hon gan ein bod yn credu bod angen gwaith craffu parhaus i sicrhau bod cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau - yn rhy aml mae'r plant a'r bobl ifanc hyn yn teimlo nad yw eu hanghenion yn cael eu blaenoriaethu."

Yn ystod y Pumed Cynulliad, bydd y Pumed Cynulliad yn mynd ati i ystyried:

  • Gwerth am arian y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y grŵp hwn o blant a phobl ifanc;
  • Gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol o ran lleoliadau maeth; ac
  • Effeithiolrwydd trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol.

I ymateb i'r ymgynghoriad cychwynnol ar yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar werth am arian gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n profi gofal, anfonwch eich safbwyntiau i SeneddArchwilio@cynulliad.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 15 Medi 2017 a gellir gweld manylion llawn yr ymgynghoriad ar dudalennau gwe y Pwyllgor.