Cyhoeddwyd 14/09/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor i archwilio’r ddarpariaeth reilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol
Yng nghyfarfod cyntaf y tymor newydd, ddydd Mercher 19 Medi, bydd Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd tystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad byr i’r ddarpariaeth reilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd yr Aelodau’n cymryd tystiolaeth gan:
- Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Adran Drafnidiaeth;
- Network Rail;
- Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol TraCC, Taith, Swwitch a SEWTA; a
- Ffocws ar Deithwyr
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae rhaglen lawn o waith gan y Pwyllgor Menter a Dysgu ar gyfer Tymor yr Hydref. R wy’n edrych ymlaen am roi cychwyn ar y gwaith, yn ein cyfarfod cyntaf y tymor yma, drwy gasglu tystiolaeth ar y ddarpariaeth reilffyrdd wrth ymateb i bapur gwyn Llywodraeth y DU ar y pwnc.”
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd o 9.00am tan 12.00pm.
Manylion llawn ac agenda