Pwyllgor i barhau â’r ymchwiliad i’r broses o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru

Cyhoeddwyd 06/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i barhau â’r ymchwiliad i’r broses o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru

Bydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn y Cynulliad parhau â’i ymchwiliad i’r addysg a ddarperir yng nghefn gwlad Cymru a’r broses o ad-drefnu ysgolion gwledig.

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gwrando ar dystiolaeth gan Yr Athro David Reynolds, Athro Addysg, Prifysgol Plymouth a’r Athro Glen Bramley, Athro Astudiaethau Trefol, Prifysgol Heriot-Watt

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • cyd-destun addysgol ysgolion gwledig;

  • a oes unrhyw faterion cymdeithasol ac addysgol ehangach ynghlwm wrth ad-drefnu ysgolion gwledig, megis yr effaith ar gymunedau gwledig, teuluoedd a phlant, a sut y caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau;

  • enghreifftiau o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru a mannau eraill i ddeall y profiadau ac i ddysgu oddi wrth ddulliau arloesol;

  • polisi a chyfarwyddyd presennol ac arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ydynt yn ymdrin yn foddhaol ag unrhyw broblemau ehangach a all fod yn gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion gwledig;

  • rôl Estyn o ran arolygu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol.

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd am 9:00am

Gybodaeth bellach am y pwyllgor a’i ymchwiliad