Pwyllgor i dderbyn tystiolaeth gan Cyllid Cymru fel rhan o’r ymchwiliad i addysg uwch yng Nghymru

Cyhoeddwyd 30/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i dderbyn tystiolaeth gan Cyllid Cymru fel rhan o’r ymchwiliad i addysg uwch yng Nghymru

Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i dderbyn tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf.                                    

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Nick Moon, cyfarwyddwr strategaeth a chyfathrebu yn  Cyllid Cymru, y corff sy’n darparu cyllid masnachol i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru.                

Bydd Aelodau hefyd yn clywed tystiolaeth gan Andy Klom, pennaeth y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, a chan y Coleg Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.                        

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 1.30pm yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, ddydd Iau, Mehefin 5.

Mwy o wybodaeth am y pwyllgor

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys:

  • Ystyried natur cysylltiad strategol Sefydliadau Addysg Uwch gyda busnesau yng Nghymru a thu hwnt a’u heffaith ar yr economi yn lleol a rhanbarthol             

  • Llwyddiant Sefydliadau Addysg Uwch yn cael mynediad at arian o wahanol ffynonellau

  • I ba raddau y mae addysg mentro wedi’i gorffori yn y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

  • Y cyfraniad y gall Sefydliadau Addysg Uwch ei wneud i’r agenda sgiliau  

  • Cyfraniadau ehangach prifysgolion yn eu lleoliadau