Pwyllgor i gasglu mwy o dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ariannu sefydliadau gwirfoddol

Cyhoeddwyd 06/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i gasglu mwy o dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ariannu sefydliadau gwirfoddol

Bydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn derbyn tystiolaeth bellach fel rhan o’i ymchwiliad i ariannu sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher, Tachwedd 7fed. Bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru. Mae’r pwyllgor hefyd wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ysgrifenedig yn ceisio barn rhai sydd â diddordeb ar:
  • Hwylustod neu anhawster cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu gyrff ariannu cenedlaethol perthnasol.
  • Hwylustod neu anhawster cydymffurfio gyda chyfyngiadau neu amodau a roddir ar arian.                      
  • Materion cysylltiedig â hyd cyfnod neu amseru unrhyw arian.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 9.30 o’r gloch ddydd Mercher, Tachwedd 7fed yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd, Bae Caerdydd. Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i ymchwiliad