Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan therapyddion galwedigaethol fel y mae’r ymchwiliad i gynllunio’r gweithlu’n parhau

Cyhoeddwyd 22/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan therapyddion galwedigaethol fel y mae’r ymchwiliad i gynllunio’r gweithlu’n parhau

Bydd therapyddion galwedigaethol yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad un o bwyllgorau’r Cynulliad i gynllunio’r gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yr wythnos hon.  

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu ym maes gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys materion fel prinder Meddygon Teulu, lefel y swyddi nyrsio gwag sydd wedi’u llenwi gan staff cronfa ac asiantaeth, lleoliadau hyfforddi ar gyfer meddygon iau, a faint o swyddi sydd ar gael i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd newydd gymhwyso, fel ffisiotherapyddion.

Bydd Coleg y Therapyddion Galwedigaethol yn rhoi tystiolaeth i gyfarfod y Pwyllgor am 9am ddydd Mercher 23 Ionawr yn Y Senedd.

Yn yr un cyfarfod, bydd yr Aelodau’n trafod llythyr gan Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn gofyn iddynt wneud cais am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart ynghylch y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran gweithredu argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y cyn Bwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Wasanaethau Canser yng Nghymru.  Mae hyn yn dilyn deiseb ar drefniadau ar gyfer sgrinio canser yng Nghymru.  

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd: “Rwy’n edrych ymlaen at glywed tystiolaeth Coleg y Therapyddion Galwedigaethol ac rwy’n sicr y bydd yn gyfraniad gwerthfawr tuag at yr hyn a fydd yn bendant yn ymchwiliad pellgyrhaeddol ac effeithiol i gynllunio’r gweithlu.