Gydag etholiad 2016 y Cynulliad yn agosáu, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yn awyddus i glywed gan bobl ledled Cymru am ei waith ers 2011.
I helpu'r Pwyllgor i feddwl am ei etifeddiaeth, mae am wybod beth yw barn pobl am y gwaith y mae wedi'i wneud, sut y mae wedi mynd ati i wneud ei waith, a'r effaith a gafodd. Cyn i'r Pumed Cynulliad ddechrau ar ei waith ym mis Mai 2016, mae'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i glywed am yr heriau allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ein hwynebu yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Sefydlwyd y Pwyllgor ar ôl etholiad diwethaf y Cynulliad yn 2011 i graffu ar ddeddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yng nghyswllt ei pholisïau a'i gwariant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ochr yn ochr â'i sesiynau craffu rheolaidd gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru a deiliaid swyddi allweddol, gan gynnwys y Prif Swyddog Meddygol a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae'r Pwyllgor wedi cynnal mwy nag ugain o ymchwiliadau polisi, ac wedi archwilio saith o Filiau.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Mae'r gwaith o graffu ar bortffolio mwyaf Llywodraeth Cymru o ran gwariant wedi bod yn dasg heriol a buddiol. Mae ein hymchwiliadau wedi cwmpasu'n cylch gwaith cyfan, o sylweddau seicoweithredol newydd i ofal preswyl i bobl hŷn a thoiledau cyhoeddus. Rydym hefyd wedi craffu ar ddeddfwriaeth arloesol gan gynnwys y Bil Trawsblannu Dynol a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl o bob rhan o Gymru roi eu barn am y modd y mae ein Pwyllgor wedi ymgymryd â'i waith eang. I'n helpu ni i nodi gwersi allweddol ac arfer gorau, rydym yn awyddus i glywed barn y rhai sydd wedi cydweithio'n agos â ni, y rhai nad ydynt erioed wedi bod yn rhan o'n gwaith, a phawb yn y canol. "
Dydd Gwener 25 Medi 2015 yw dyddiad cau'r ymgynghoriad. Cewch ragor o wybodaeth am sut i ymateb i'r ymgynghoriad ar wefan y Pwyllgor: www.cynulliad.cymru/seneddhealth neu dilynwch ni at Twitter: @IechydSenedd
Llythyr Ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.pdf (PDF, 187 KB)