Cyhoeddwyd 09/07/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor Iechyd Newydd i gynnal ei gyfarfod cyntaf
Bydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol newydd y Cynulliad yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yr wythnos hon.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Mercher 11 Gorffennaf i ethol Cadeirydd ac i drafod rôl y Pwyllgor.
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar wariant, gweinyddiaeth a pholisi’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus cysylltiol ym meysydd iechyd, llywodraeth leol a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn y cyfarfod cyntaf bydd yr Aelodau’n trafod meysydd posibl i graffu arnynt yn y dyfodol.
Cynhelir y cyfarfod am 9.30am, ddydd Mercher 11 Gorffennaf yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd.
Mwy o fanylion