Pwyllgor Iechyd y Cynulliad yn lansio adroddiad newydd pwysig ar wasanaethau canser yng Nghymru

Cyhoeddwyd 05/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Iechyd y Cynulliad yn lansio adroddiad newydd pwysig ar wasanaethau canser yng Nghymru

Yn ôl adroddiad newydd sydd ar gael heddiw, dylid cynnig pecyn gofal ac adsefydlu cynhwysfawr i’r holl gleifion sydd â chanser yng Nghymru ar yr adeg y cânt ddiagnosis. Dylai’r pecyn hwn gynnwys gwybodaeth am brognosis a thriniaeth; adsefydlu a maeth a dylai hefyd sôn am y cymorth seicolegol, ysbrydol ac emosiynol a ddarperir. Mae Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi canlyniadau ei adolygiad o wasanaethau canser yng Nghymru heddiw (dydd Llun 5 Chwefror). Caiff yr adroddiad ei lansio mewn cynhadledd ar ofal canser yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, am 2pm. Mae’r adroddiad yn cydnabod ymrwymiad staff sy’n gweithio gyda chleifion â chanser yn y sector statudol a gwirfoddol a noda fod gan y GIG a chyrff eraill lawer i fod yn falch ohono, ond y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried defnyddio cymhellion fel bwrsariaethau hyfforddi i annog staff arbenigol i weithio yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn canmol y gwaith a wneir i roi gwybod i’r cyhoedd am fesurau ataliol, fel rhoi’r gorau i ysmygu, deiet a ffordd o fyw. Mae angen gwneud mwy i gyfleu’r negeseuon hyn i blant a phobl ifanc mewn ysgolion, ac mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i ehangu a chryfhau’r system nyrsio ysgol i helpu i gyflawni hyn. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfanswm o 16 o argymhellion. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno cynllun gweithredu i sicrhau arian ar gyfer offer radiotherapi newydd, symleiddio’r dull presennol o gomisiynu gofal lliniarol, a phrotocol ar gyfer gwerthuso cyffuriau a therapïau newydd. Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Bu hwn yn adolygiad cynhwysfawr ac eang ei gwmpas, ond nid oedd yn bosibl archwilio pob agwedd ar y gwasanaethau canser a ddarperir o fewn yr amser a oedd ar gael, felly canolbwyntiwyd ar faterion lle y gall y Pwyllgor wneud argymhellion sy’n realistig a chyraeddadwy o fewn yr adnoddau sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru. Rwy’n ddiolchgar i’r panel o gynghorwyr arbenigol a gynorthwyodd y Pwyllgor ac i bawb a roddodd tystiolaeth i’r adolygiad. Gobeithio ein bod wedi llwyddo i wneud argymhellion y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru eu datblygu gyda’r GIG a’i bartneriaid yn ystod y Trydydd Cynulliad.”