Cyhoeddwyd 10/07/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad i gynnal ei gyfarfod cyntaf
Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon. Cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio gwariant, polisi a gweinyddiaeth y llywodraeth ym meysydd datblygu economaidd, trafnidiaeth, menter gymdeithasol a dysgu gydol oes.
Bydd yr Aelodau’n trafod y ddeiseb i ailagor Gorsaf Carno.
Rhagor o fanylion am y ddeiseb ac am system ddeisebau newydd y Cynulliad
Bydd y Pwyllgor hefyd yn ethol Cadeirydd ac yn trafod ymholiadau posibl ynghylch polisïau ar gyfer y dyfodol.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod am 9.30am ddydd Mercher 11 Gorffennaf yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, Bae Caerdydd.
Rhagor o fanylion.