Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gam olaf buddsoddiad Comisiwn y Cynulliad
22 Hydref 2013
Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar gam olaf cynllun buddsoddi tair blynedd Comisiwn y Cynulliad i wella'r gwasanaeth a ddarperir ganddo i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru.
Wrth groesawu'r ffaith i'r Comisiwn gyhoeddi dangosyddion perfformiad i gyd-fynd â'i gyllideb ddrafft ddiweddaraf, roedd y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod bwriad y Comisiwn i ddarparu data cynhwysfawr i ddangos gwerth y rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol y mae wedi ymgymryd â hi.
Eglurodd y Pwyllgor yn glir hefyd y bydd angen i gyllideb y flwyddyn ganlynol fod o fewn y terfynau sy'n bodoli ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Mynegwyd pryderon ynghylch rhai agweddau ar gyllideb ddrafft y Comisiwn, gan gynnwys ei gynllun ar gyfer yr iaith Gymraeg, ei strategaeth TGCh a'r targedau llym y mae wedi'u pennu i leihau ei allyriadau carbon ymhellach.
Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai dau o'i aelodau weithio'n agos gyda'r Comisiwn i graffu ar wariant yn rhai o'r meysydd hyn.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Y llynedd, dywedodd y Pwyllgor Cyllid wrth Gomisiwn y Cynulliad ei fod am weld canlyniadau o'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yr oedd wedi ymgymryd â hi."
"Drwy gyhoeddi ei ddangosyddion perfformiad, mae'r Comisiwn wedi cymryd camau cadarnhaol i arddangos y gwasanaeth o ansawdd uchel y mae'n ceisio ei ddarparu i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru.
"Mae'r Pwyllgor wedi ei gwneud yn glir hefyd ei fod yn disgwyl i gyllideb y Comisiwn fod o fewn y terfynau sy'n bodoli ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru y flwyddyn ganlynol. Credwn fod y Comisiwn mynd i'r afael â hynny.
"Ond mae gennym bryderon ynghylch dwy agwedd benodol ar y gyllideb ddrafft, ym meysydd TGCh a chynllun yr iaith Gymraeg, a dyna pam ein bod wedi gofyn i ddau o'n haelodau weithio'n agos gyda'r Comisiwn dros y flwyddyn nesaf."
Mae’r Pwyllgor yn gwneud pum argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Cais am ragor o wybodaeth am raglenni a risgiau newydd mewn cyllidebau yn y dyfodol, a;
Cais i gynnal adolygiad o'r gefnogaeth ar gyfer ymweliadau ysgolion i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau diangen i ysgolion yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd am ymweld â'r Cynulliad.