Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol yn dweud bod angen sbarduno’r gwaith o ddiwygio gwasanaethau gofal preswyl

Cyhoeddwyd 18/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/02/2016

Mae angen cyflymu'r gwelliannau i'r ffordd y caiff gwasanaethau gofal preswyl eu darparu yng Nghymru, yn ôl pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn amlinellu meysydd i'w hystyried.

Dywedodd y Pwyllgor fod mynediad at eiriolaeth annibynnol yn rhan allweddol o ofal o ansawdd i bobl hŷn, a galwodd ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gydweithio i sicrhau cyllid priodol a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ledled Cymru.

Llun o Flickr gan myfuture.com. Dan drwydded Creative Commons.
 

Mae'r Pwyllgor hefyd yn credu bod defnyddio aseswyr lleyg i archwilio cyfleusterau yn gyfle i glywed llais pobl hŷn, ac mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob mecanwaith sydd ar gael i sicrhau bod gan y rheini sy'n rhedeg, yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau gofal preswyl ddealltwriaeth glir o fywyd dyddiol mewn cartref gofal.

Hefyd, nodwyd bod hyfforddiant gorfodol i staff yn peri pryder wedi i Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ganfod bod oddeutu dwy ran o bump o'r holl staff gofal yn aros am yr hyfforddiant mwyaf sylfaenol hyd yn oed. Roedd y canfyddiadau hyn yn adroddiad y Comisiynydd Adolygiad o Gartrefi Gofal a gyhoeddwyd yn 2014.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i fapio anghenion hyfforddiant yng Nghymru, ond roedd yn teimlo bod angen sbarduno'r broses. Mae hefyd eisiau gweld hyfforddiant dementia gorfodol yn rhan o'r pecyn datblygu ehangach.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae'r Pwyllgor wedi penderfynu bwrw golwg agosach ar wasanaethau gofal preswyl a chymdeithasol drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad.

"Mae llawer o argymhellion y Pwyllgor yn ein hadroddiad Gofal Preswyl i Bobl Hŷn a gyhoeddwyd yn 2012 wedi cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno ers hynny.

"Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn credu, er bod pethau wedi symud ymlaen, bod angen sbarduno'r gwaith er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y gwasanaethau angenrheidiol, bod rhywun yn gwrando arnynt, a bod y staff sy'n gyfrifol am eu gofal yn derbyn yr hyfforddiant gofynnol."

Mae'r Pwyllgor yn gofyn i'r Gweinidog ystyried wyth maes, gan gynnwys:

  • Galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gydweithio i sicrhau cyllid priodol a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ledled Cymru;
  • Dylid defnyddio pob mecanwaith posibl – gan gynnwys aseswyr lleyg – i sicrhau bod gan y rheini sy'n rhedeg, yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau gofal preswyl ddealltwriaeth glir o fywyd dyddiol mewn cartref gofal; a
  • Chroesawu'r gwaith a fydd yn cael ei wneud i fapio'r ddarpariaeth hyfforddiant bresennol ac ystyried ymchwil i fynd i'r afael ag amrywiadau. Mae'r Pwyllgor yn nodi y bydd hon yn broses a fydd yn esblygu ac y bydd angen amser i nodi'r hyfforddiant mwyaf priodol i ddiwallu anghenion pawb. Serch hynny, mae'n credu bod angen gwneud y gwaith hwn yn gyflym.

Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar 20 Ionawr 2016 ynghylch gofal preswyl i bobl hŷn (PDF, 541KB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth am yr adroddiad gofal preswyl i bobl hŷn a gyhoeddwyd yn 2012.

 

Sesiwn Craffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: paratoi ar gyfer sesiwn dystiolaeth lafar