Cyhoeddwyd 13/11/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor y Cynulliad i holi’r Gweinidog Iechyd am gyllideb ddrafft y Llywodraeth
Bydd Edwina Hart AC, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ddydd Mercher 14 Tachwedd i ateb cwestiynau am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn parhau â’i ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu yng Nghymru trwy glywed tystiolaeth gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain a Choleg Brenhinol y Nyrsys Cymru.
Cynhelir y cyfarfod am 9:30am ddydd Mercher 14 Tachwedd 2007 yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor ac agenda