Pwyllgor y Cynulliad o blaid creu panel annibynnol i bennu’r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad – ond maent yn awgrymu rhai gwelliannau

Cyhoeddwyd 08/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad o blaid creu panel annibynnol i bennu’r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad – ond maent yn awgrymu rhai gwelliannau

8 Mawrth 2010

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid y Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau).

Dyma’r Mesur cyntaf erioed i gael ei gynnig gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol a’i nod yw sefydlu Bwrdd Taliadau, annibynnol o Aelodau’r Cynulliad, i benderfynu ar y cyflog a’r cymorth ariannol arall sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad.

Yn awr mae Aelodau’r Pwyllgor Deddfwriaeth wedi cymeradwyo’r Mesur Arfaethedig, yn dilyn ymchwiliad a barodd dri mis, ond maent wedi argymell gwneud rhai gwelliannau i’r Mesur.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym o’r farn fod cynnydd arwyddocaol wedi’i wneud ers dechreuad y Cynulliad i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd”.

“Mae’n bwysig fod y Cynulliad, fel sefydliad, ac Aelodau’r Cynulliad, fel cynrychiolwyr etholedig, yn parhau i adeiladu ar yr ymddiriedaeth honno.

“Teimlwn fod y Mesur arfaethedig a sefydlu Bwrdd annibynnol i benderfynu ar y cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad yn darparu cyfle i wneud hyn.”

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y wybodaeth gyfyngedig o fewn y Mesur o ran trefniadau atebolrwydd. Mae wedi galw ar y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, fel yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur, i roi sylw i’r mater rhag blaen.

Roeddent hefyd yn galw am gynnwys datganiad yn y Mesur i’w gwneud yn glir bod y Bwrdd yn annibynnol o’r Cynulliad ac i’r Mesur esbonio’n gwbl eglur fwriad y Bwrdd i weithredu mewn dull cwbl agored a thryloyw a bod dyletswydd ar y Bwrdd yn hyn o beth.

Yn olaf, mae’r Pwyllgor wedi argymell bod y Mesur yn cynnwys gofyniad ar y Bwrdd i ymgynghori â rhai sydd â diddordeb, yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth cyn iddo wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt.