Pwyllgor y Cynulliad yn argymell datganoli pwerau yn ymwneud â mannau diogel i bobl ifanc

Cyhoeddwyd 25/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn argymell datganoli pwerau yn ymwneud â mannau diogel i bobl ifanc

25 Chwefror 2010

Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am sefydliadau troseddwyr ifanc a chartrefi diogel i blant, yn ôl adroddiad newydd.

Ar ôl 10 mis, mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cwblhau ei ymchwiliad i’r system cyfiawnder ieuenctid ac wedi gwneud 28 argymhelliad er mwyn ceisio gwella’r system.

Un o brif ganfyddiadau’r Pwyllgor oedd bod tystion yn credu bod agenda Llywodraeth Cymru sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n cael ei ddarparu ar gyfer plant yng Nghymru yn llawer mwy datblygedig na’r agenda cyfatebol sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Whitehall.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell y dylid herio canfyddiadau’r cyhoedd ynghylch troseddwyr ifanc a chwalu’r ystrydebau negyddol sy’n gysylltiedig â phobl ifanc sy’n gwisgo ‘hwdis’. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod plant a phobl ifanc yn aml yn cael eu pardduo’n annheg.

Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn dangos, mewn llawer o achosion, fod troseddwyr ifanc wedi dioddef camdriniaeth gorfforol a rhywiol, wedi cael eu denu i gamddefnyddio cyffuriau neu wedi treulio amser yng ngofal gwasanaethau cymdeithasol oherwydd problemau yn y cartref.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Nid yw’r Pwyllgor o’r farn y dylai troseddwyr ifanc weld Cymru fel targed hawdd. Serch hynny, rydym yn ymwybodol eu bod yn blant yn gyntaf, ac yn droseddwyr yn ail.

“Mae’r dystiolaeth rydym wedi ei glywed yn cynnig darlun argyhoeddiadol ar gyfer datganoli pwerau yn ymwneud â mannau diogel i bobl ifanc. Byddai hyn yn rhoi’r pwer i Lywodraeth Cymru newid y strwythur fel ei fod diwallu anghenion Cymru yn well.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau nid yn unig bod troseddwyr yn cael eu cosbi mewn modd gweladwy, ond hefyd bod proses glir a chadarn ar gael iddynt allu integreiddio yn ôl i’r gymdeithas, a hynny gyda rhagolygon cadarnhaol ynghylch y dyfodol a dim awydd i aildroseddu.”

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys yr argymhellion canlynol:

- Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio ag asiantaethau cymorth er mwyn ystyried sut y gellir gwella’r modd o adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddi.

- Dylid adolygu’r arferion ynghylch dedfrydu troseddwr ifanc i’r carchar, a sicrhau bod yr arferion hynny ond yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau priodol a’u bod yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

- Dylid adolygu argaeledd a phriodoldeb y llety mechnïaeth sydd wedi ei neilltuo ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

- Dylid ystyried goblygiadau posibl codi’r oedran cyfrifoldeb troseddol.

- Dylid cydweithio ag awdurdodau lleol, sefydliadau cyflogaeth a chyrff yn y trydydd sector er mwyn cynyddu cyfleoedd y bobl hynny sy’n gadael y carchar i gael swydd.