Pwyllgor y Cynulliad yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau mewn cyfarfod yn Abertawe

Cyhoeddwyd 14/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau mewn cyfarfod yn Abertawe

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ei gyfarfod nesaf yn y Stadiwm Liberty, Abertawe ddydd Mercher 21 Mai.

Bydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad gyda’r posibilrwydd o wneud newidiadau i’r ffordd y caiff organau’r corff eu rhoi yng Nghymru. Bydd Dr Richard Griffith o Ysgol Gwyddor Iechyd Prifysgol Abertawe ond mae Aelodau hefyd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd yn ystod sesiwn meicroffon agored.

Mae’r pwyllgor yn ystyried a ddylid cyflwyno system caniatâd tybiedig yng Nghymru ac a yw hyn yn bosibl. Gall rhoi organau fod yn fater sensitif ac mae’r pwyllgor am glywed barn cynifer o bobl yng Nghymru â phosibl.    

Mae’r pwyllgor hefyd yn cynnal pleidlais a fforwm trafod ar-lein ar y pwnc. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am hyn yn:

Bydd y canlyniadau hyn yn llunio rhan o’r dystiolaeth y bydd y pwyllgor yn seilio’i gasgliadau terfynol arni.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y pwyllgor: “Nid oes amheuaeth bod llawdriniaeth trawsblannu yn gallu arbed bywydau a gwella bywydau y rheini sy’n cael budd o’r llawdriniaeth. Mae hefyd prinder rhoddwyr ar hyn o bryd.

“Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed. Rhaid ystyried unrhyw newid i’r gyfraith ar roi organau’n ofalus a hefyd ystyried barn y cyhoedd.  

“Rydym yn awyddus i glywed barn cynifer o bobl â phosibl o bob cwr o’r wlad. Dyma’r rheswm dros gynnal cyfarfodydd mewn sawl tref a dinas wahanol ledled y wlad. Rwyf yn annog pawb i ddod i fynegi’i farn ar fater a fydd yn effeithio ar bawb yn y wlad gyfan.”

Cynhelir y cyfarfod yn y Stadiwm Liberty, Abertawe ar 21 Mai rhwng 9.00am ac 11.00am. Gall aelodau’r cyhoedd gyrraedd am 8.45am. Bydd te a choffi ar gael.

Nid oes rhaid archebu lle ymlaen llaw, ond os hoffech sicrhau sedd, cysylltwch â’r Llinell Archebu ar 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’i ymchwiliad