Pwyllgor y Cynulliad yn dechrau ymchwiliad i iechyd y geg mewn plant
Ddydd Mercher (21 Medi), bydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau casglu tystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad i iechyd y geg mewn plant yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain fel rhan o’r ymchwiliad, a fydd yn archwilio effeithiolrwydd rhaglen Cynllun Gwên Llywodraeth Cymru, sef rhaglen a luniwyd i wella iechyd y geg mewn plant yng Nghymru, a hynny mewn ardaloedd difreintiedig yn benodol.
Caiff cyfarfod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ei gynnal am 09.20 yn y Senedd.