Pwyllgor y Cynulliad yn galw am dystiolaeth i’w ymchwiliad i ariannu sefydliadau gwirfoddol
Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad wedi dewis cynnal ymchwiliad i ariannu sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru ac y mae’n galw ar y rheiny sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i roi tystiolaeth ysgrifenedig.
Cefndir
Mae tua 30,000 o sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru; gyda chyfanswm incwm o dros £1 biliwn. Y brif ffynhonnell o ran incwm yw arian y llywodraeth, sy’n cyfrannu rhyw drydedd rhan o incwm i’r sector hwn. Bydd ein hymchwiliad yn casglu tystiolaeth ar faterion cyffredinol sy’n gysylltiedig â chyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol fel y gallwn nodi problemau penodol ac enghreifftiau o arferion da – a gwneud argymhellion priodol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cylch Gorchwyl
Cynnal ymchwiliad craffu i ddull strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru o ariannu sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor yn:
Archwilio polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ariannu sefydliadau gwirfoddol;
Archwilio’r cyfarwyddiadau polisi a roddir i gyrff ariannu perthnasol;
Archwilio’r gweithdrefnau ar gyfer monitro canlyniadau ariannu o’r fath;
Archwilio materion 'cyllidebu ar sail rhyw’ mewn perthynas ag ariannu o’r fath;
Archwilio’r rhwyddineb neu’r anhawster a gafodd sefydliadau perthnasol o ran cael mynediad at arian; a
Chyflwyno adroddiad i’r Gweinidog Cymreig perthnasol, gydag argymhellion.
Gofynnir am dystiolaeth er mwyn ceisio’ch sylwadau ar y materion canlynol:
1. Y rhwyddineb neu’r anhawster o ran cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu gyrff ariannu cenedlaethol perthnasol.
2. Y rhwyddineb neu’r anhawster o ran cydymffurfio â’r cyfyngiadau neu’r amodau a roddir ar ariannu.
3. Materion yn ymwneud â pharhad neu amseru’r ariannu.
4. Unrhyw sylwadau eraill sy’n berthnasol i’r ymchwiliad.
Manylion pellach ar y pwyllgor a'i ymchwiliad