Pwyllgor y Cynulliad yn galw am dystiolaeth ynghylch gofal cartref.

Cyhoeddwyd 13/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn galw am dystiolaeth ynghylch gofal cartref.

Mae’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Gofal Cartref, a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cynullid Cymru ar ofal cartref, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn rhai sydd â diddordeb.                                                                                

Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi i’r Cynulliad y grym i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes lles cymdeithasol. Yn benodol bydd yn galluogi’r Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio gosod tâl gan awdurdodau lleol am ofal cymdeithasol dibreswyl gyda’r nod o waredu’r gwahaniaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd.                    

Wrth graffu ar y Gorchymyn arfaethedig bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig a ph’un a ddylai cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes a ddynodwyd ym                                ‘Mater 15.9’ gael ei roi i’r Cynulliad            

  • Amodau’r Gorchymyn arfaethedig, ac yn benodol, a ydynt wedi’u diffinio’n rhy eang neu’n rhy gyfyng.          

Dywedodd Joyce Watson AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae darpariaeth gofal cymdeithasol dibreswyl a threfniadau codi tâl cysylltiedig â hynny wedi bod yn fater dadl ers amser. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awr yn gofyn am bwerau deddfu ychwanegol ym maes gofal cymdeithasol dibreswyl o dan Adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r Pwyllgor hwn wedi derbyn y dasg o graffu ar gynigion y Llywodraeth. Ein swyddogaeth ni yw sicrhau bod y grym a geisir yn briodol a bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn addas i’w phwrpas.  Mae’r Pwyllgor yn awyddus iawn i glywed barn unigolion a sefydliadau ym maes lles cymdeithasol, a fydd yn helpu i ddarparu gwybodaeth iddo yn ei waith. Fe hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i ymweld â’n gwefan a chyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.”

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu barn gan rai sydd â diddordeb ar y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw eich barn ar yr egwyddor cyffredinol bod cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes a ddynodwyd ym Mater 15.9 yn cael ei roi i’r Cynulliad?

  • Beth yw eich barn ar amodau’r Gorchymyn arfaethedig e.e. a ydynt wedi’u llunio’n rhy gyfyng neu’n rhy eang?

  • A ydych chi’n ystyried bod y materion a eithriwyd yn atal effeithiolrwydd unrhyw Fesurau arfaethedig a fyddai’n cael eu dwyn ymlaen o dan Fater 15.9 yn y dyfodol? Os ydych, esboniwch pam os gwelwch yn dda.

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd dim hwyrach na dydd Gwener, 25 Ionawr 2008. Os yn bosibl, dylech roi fersiwn electronaidd hefyd yn MS Word neu fformat Rich Text, un ai trwy gyfrwng e-bost Swyddfaddeddfwriaeth@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’w craffu gan y cyhoedd ac fe allent gael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i’ch ymateb neu’ch enw gael ei gyhoeddi mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad.