Cyhoeddwyd 01/08/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor yn ceisio barn am Dwbercwlosis mewn gwartheg
Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o’i ymchwiliad craffu ar Dwbercwlosis yng Nghymru.
Yn Awst 2004, cyhoeddodd y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yr hyn a ganfyddodd yn ei ymchwiliad ar Dwbercwlosis mewn Gwartheg yng Nghymru. Cyhoeddodd y Grwp Gwyddonol Annibynnol (ISG) ar Wartheg ei adroddiad terfynol ym mis Mehefin 2007 dan y teitl
Bovine TB: The Scientific Evidence
Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn gweithredu’n sydyn i ail edrych ar Dwbercwlosis mewn Gwartheg yng ngoleuni’r adroddiad diweddar ac fe hoffai glywed barn unigolion a sefydliadau ar adroddiad y Grwp Gwyddonol Annibynnol ac am weithredu argymhellion y Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Dywedodd Cadeirydd yr is-bwyllgor, Alun Davies: “Mae TB mewn gwartheg yn dal i fod yn fater pwysig i’r gymuned ffermio yng Nghymru. Mae’n amlwg bod angen i ni barhau yn ein hymdrechion i frwydro yn erbyn yr afiechyd; a gobeithia’r is-bwyllgor y gall yr ymchwiliad craffu wneud cyfraniad arwyddocaol yn hyn o beth. Felly yr ydym eisiau clywed tystiolaeth ar y pwnc gan amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau a buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn Twbercwlosis mewn gwartheg yng Nghymru i anfon eu safbwyntiau atom.”
Mwy o wybodaeth am yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ynghyd â’r manylion o ran cyflwyno tystiolaeth.