Pwyllgor yn cyfarfod yng Ngharno i drafod dyfodol yr orsaf reilffordd

Cyhoeddwyd 30/08/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn cyfarfod yng Ngharno i drafod dyfodol yr orsaf reilffordd

Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad yn cyfarfod yng Ngharno i drafod galwadau i ailagor gorsaf reilffordd y dref. Cyflwynwyd deiseb i’r Cynulliad yn galw am ailagor gorsaf Carno.   Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hwn yn fater pwysig i’r bobl leol ac mae llawer ohonynt yn teimlo’n gryf y dylid ailagor yr orsaf. Serch hynny, mae’n bwysig bod y Pwyllgor yn pwyso a mesur dwy ochr y ddadl cyn cyflwyno argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Roedd y Pwyllgor o’r farn mai’r ffordd orau o wneud hynny fyddai drwy gyfarfod yng Ngharno a rhoi cyfle i’r deisebwyr fynegi’u barn. Mae hefyd yn gyfle i bobl leol ddod i’r cyfarfod i glywed y dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor a thrafodaethau’r Aelodau.” Bydd Tony Burton, y sawl a drefnodd y ddeiseb, yn siarad yn y cyfarfod, ynghyd â chynrychiolwyr Trenau Arriva, Network Rail, Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cynhelir y cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Carno am 9.30am ddydd Mawrth 4 Medi. Mwy o fanylion