Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar y cynigion ar gyfer cynllun gwneud iawn am gamweddau’r GIG

Cyhoeddwyd 24/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar y cynigion ar gyfer cynllun gwneud iawn am gamweddau’r GIG

Mae Pwyllgor y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) wedi croesawu cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer creu cynllun gwneud iawn am gamweddau’r GIG i Gymru.

Adroddiad Cam 1 y Pwyllgor yw’r cyntaf o’i fath i’w gyhoeddi o dan bwerau deddfu newydd y Cynulliad. Darllenwch adroddiad y Pwyllgor

Yn ei adroddiad, mae aelodau’r Pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Mesur: gwneud trefniadau i wneud iawn mewn achosion o esgeuluster meddygol yng nghyswllt triniaeth gan y GIG yng Nghymru

Maent hefyd, fodd bynnag, wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid rhai o ddarpariaethau’r Mesur a darparu rhagor o wybodaeth fanwl am nifer o faterion ar gyfer Cam 1 y drafodaeth:

  • Prin oedd y wybodaeth a gafwyd am effaith ariannol y ddeddfwriaeth ac mae angen rhagor o fanylion ar gyfer Cam 1 y drafodaeth.

  • Cyn ehangu’r trefniadau gwneud iawn i’r sector gofal sylfaenol mae angen gwerthuso’r ffordd y caiff ei weithredu mewn lleoliadau gofal eilaidd yn ogystal ag ymgynghori’n drylwyr â rhanddeiliaid ym maes gofal sylfaenol;

  • Mae angen ymgymryd â rhagor o waith i ofalu bod y ddeddfwriaeth yn glir ynghylch y berthynas rhwng trefniadau gwneud iawn a chynllun cwynion y GIG;

  • Mae angen rhagor o drafodaeth ynghylch uchafswm yr iawndal y dylid ei bennu ar gyfer achosion o dan unrhyw gynllun gwneud iawn;

  • Dylid diwygio’r Mesur i ofalu bod dulliau diogelu wedi’u sefydlu yng nghyswllt achosion lle penderfynwyd peidio â gadael i glaf weld adroddiad ymchwiliad;

  • Mae angen i’r Mesur wneud darpariaeth ar gyfer pennu terfynau amser dros dro yn ystod y broses o ymchwilio a dod i gytundeb i ofalu bod gan gleifion a staff y GIG hyder mewn unrhyw drefniadau gwneud iawn;

  • Mae angen ymgymryd â rhagor o waith i ofalu bod y broses ymchwilio’n effeithiol ;

  • Dylai’r Gweinidog ddarparu rhagor o wybodaeth yng Ngham 1 y ddadl ynghylch sut a phryd y bydd cleifion yn derbyn cyngor a chymorth arbenigol;

  • Bydd llawer o’r cynllun gwneud iawn wedi’i osod allan mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai fod yn ddyletswydd statudol i ymgynghori ynghylch yr holl reoliadau yn hytrach na dim ond y rhai technegol eu natur a rheoliadau sy’n ymwneud â diweddaru’r trefniadau;

  • Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid, yn y dyfodol, sicrhau bod polisïau wedi’u datblygu cyn cyflwyno deddfwriaeth i’r Cynulliad ei hystyried.

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Dyma’r Mesur cyntaf i’r Cynulliad ei ystyried ac, felly, dyma’r tro cyntaf i bwerau newydd y Cynulliad gael eu rhoi ar brawf. Rydym wedi craffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ofalus iawn ac wedi ymgynghori ag amrywiaeth o gyrff allweddol er mwyn cael gwybodaeth i’n helpu gyda’r ymchwiliad.  

“Er ein bod yn argymell yn ein hadroddiad mai cynigion y Llywodraeth yw’r ffordd orau ymlaen, rydym wedi mynegi rhai pryderon, fel y syniad o gynnwys gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn y cynllun a sut y caiff y trefniadau gwneud iawn eu rheoli a’u monitro’n ymarferol.  

“Rydym hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog dros Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddarparu gwybodaeth bwysig am y ffordd y caiff y cynllun gwneud iawn ei weithredu yng Ngham 1 y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.”

Rhagor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfu