Pwyllgor yn cymeradwyo cyllideb atodol Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 08/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2016

​Mae cyllideb atodol Llywodraeth Cymru newydd wedi cael ei chymeradwyo gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae cyllideb atodol gyntaf tymor newydd y Cynulliad yn edrych ar newidiadau a wnaed ers y gyllideb derfynol cyn yr etholiad ym mis Mai.

Prif ddiben y gyllideb atodol hon yw ailstrwythuro i adlewyrchu’r newidiadau i bortffolios Gweinidogion Llywodraeth Cymru newydd.

Mae’r Llywodraeth wedi dyrannu £11 miliwn yn ychwanegol i faes yr amgylchedd a materion gwledig, £10 miliwn i faes addysg, ac £8 miliwn i’r gwasanaethau canolog a gweinyddu.

Roedd y Pwyllgor yn falch o weld bod yr ymrwymiad a wnaed yn y gyllideb ddiwethaf, yn ymwneud â chyllid ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru, yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb atodol. Cododd y Pwyllgor Cyllid blaenorol bryderon yn hyn o beth.

Yn wreiddiol roedd y Llywodraeth yn cynnig torri £41 miliwn, cyn iddi adolygu’r cynnig a lleihau’r swm i £20 miliwn. Bellach mae swm ychwanegol o £5 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer astudio rhan-amser a £5 miliwn arall ar gyfer gwaith ymchwil.

Nododd y Pwyllgor hefyd y dyraniad o £1.5 miliwn ychwanegol i gefnogi’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot, a sefydlwyd yn sgîl argyfwng y diwydiant dur.

Fodd bynnag, yn y dyfodol, mae am weld rhagor o dystiolaeth sy’n nodi’r rhesymeg sy’n sail i ddyraniadau’r gyllideb, gan gynnwys yr effaith economaidd a ragwelir.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Bydd newidiadau mawr i’r ffordd y caiff Cymru ei chyllido dros y pum mlynedd nesaf, gyda phwerau trethu a benthyca yn cael eu datganoli o San Steffan.

"Mae’n hanfodol, felly, bod cyllidebau Llywodraeth Cymru yn agored a thryloyw, eu bod yn adlewyrchu pryderon pobl Cymru ac yn dangos canlyniadau pendant sy’n nodi sut y mae’r arian a gaiff ei wario yn gwella ein bywydau.

"Bydd y Pwyllgor hwn yn rhoi cyllidebau’r Llywodraeth a’i gwariant dros y pum mlynedd nesaf o dan y chwyddwydr, er mwyn sicrhau bod cyfeiriad clir, pwrpas a rhesymeg drylwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth wraidd ei chynlluniau.

“Yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r cynigion yn y gyllideb atodol hon, a nododd mai ei phrif bwrpas yw ailstrwythuro, i adlewyrchu’r newidiadau i bortffolios Gweinidogion Llywodraeth Cymru newydd.

Caiff cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ei hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.