Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Ariannu Cymru yn y Dyfodol

Cyhoeddwyd 07/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/05/2015

Heddiw, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei fod yn cynnal ymchwiliad i Ariannu Cymru yn y Dyfodol.

 

Nodwyd y dadleuon ynghylch ariannu teg yn adroddiadau Comisiwn Holtham yn 2010 a Chomisiwn Silk (Rhan 1) yn 2012 a chafwyd rhagor o ddatblygiadau ar hyd a lled y DU a allai effeithio ar setliad datganoli Cymru.

 

Fel rhan o'i ymchwiliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn am sylwadau ar y canlynol:

 

  • Beth yw prif weindiadau'r setliad ariannol presennol ar gyfer Cymru?
  • Sut y gellid mynd i'r afael â'r gwendidau hyn?
  • Sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â:
  • mabwysiadu model cadw pwerau i Gymru, a chynigion datganoli Dydd Gŵyl Dewi,
  • argymhellion Comisiwn Smith,

    yn effeithio ar drefniadau ariannu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol
  • Pa wybodaeth ariannol ac economaidd sydd ei hangen ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynorthwyo â'r trefniadau ariannu yn y dyfodol?
  • A oes unrhyw broblemau y dylai'r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt o ran datblygiadau'n ymwneud â chydgyfeirio, tanariannu a diwygio fformwla Barnett? 
  • Sut y gallai Llywodraeth y DU gynnwys dull o ddatganoli cyllid ar sail anghenion yn y dyfodol?
  • A ddylid cytuno ar setliadau datganoli ariannol ar gyfer Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn modd cydgysylltiedig ynteu fel cyfres o gytundebau dwyochrog?
  • Pa egwyddorion y dylid eu mabwysiadu wrth ddatganoli rhagor o bwerau cyllidol sy'n sicrhau tegwch a hyblygrwydd?

 

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

 

"Gallai datblygiadau ar hyd a lled y DU yn ddiweddar effeithio ar setliad datganoli Cymru a'r cyllid a gaiff Cymru.

 

"Rydym yn awyddus i glywed eich barn am bynciau pwysig fel y wybodaeth ariannol ac economaidd sydd ei hangen ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i helpu gyda'r trefniadau ariannu yn y dyfodol a hefyd a ddylid cytuno ar setliadau datganoledig ariannol Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn modd cydgysylltiedig.

 

"Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu Saesneg a chan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law."