Cyhoeddwyd 22/10/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth gan sefydliadau gwirfoddol fel rhan o ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn derbyn tystiolaeth yr wythnos hon gan Ferched y Wawr, Clybiau ar gyfer Pobl Ifanc yng Nghymru ac Age Concern fel rhan o’i ymchwiliad i ariannu sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.
Dywedodd Janice Gregory AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae oddeutu 30,000 o sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau eraill y trydydd sector yng Nghymru; gyda chyfanswm incwm o dros £1 biliwn. Y brif ffynhonnell arian yw arian gan y llywodraeth, sy’n cyfrannu traean o’r incwm i’r sector hwn yn fras. Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar faterion cyffredin a gysylltir ag arian Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r sector gwirfoddol; fel y gallwn adnabod problemau penodol ac esiamplau o ymarfer da - a gwneud argymhellion priodol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. “
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 9.30am ddydd Mercher Hydref 24 yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Nodyn i olygyddion: Mae’r Pwyllgor wedi galw am dystiolaeth ysgrifenedig gan ofyn am farn rhai sydd â diddordeb, ar y materion canlynol:
- Rhwyddineb neu anhawster sicrhau arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru neu gyrff ariannu cenedlaethol perthnasol.
- Rhwyddineb neu anhawster cydymffurfio â chyfyngiadau neu amodau a roddir ar arian.
- Materion yn ymwneud â hyd cyfnod neu amseru unrhyw arian.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i ymchwiliad