Pwyllgor yn gofyn am farn gyhoeddus ar ddeddfwriaeth newydd i gyflymu proses iawndal y GIG

Cyhoeddwyd 20/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn gofyn am farn gyhoeddus ar ddeddfwriaeth newydd i gyflymu proses iawndal y GIG

Mae deddfwriaeth arfaethedig newydd fydd yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion y GIG hawlio iawndal pan fo’u triniaeth wedi mynd o’i le i dderbyn ymgynghoriad cyhoeddus. Sefydlwyd Pwyllgor gan y Cynulliad i ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007 ac mae bellach yn galw am dystiolaeth ac yn gofyn barn gan bawb sydd â diddordeb. Nod y mesur arfaethedig yw symleiddio’r modd y gall cleifion geisio iawn gan y GIG, a’i gwneud yn llawer cyflymach i setlo hawliadau clinigol bychan eu gwerth heb droi at y llysoedd. Hwn yw Mesur arfaethedig cyntaf y Llywodraeth i gael gwaith craffu arno gan y Cynulliad dan bwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’i broses graffu cyn deddfu, bydd y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y mesur arfaethedig ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad. Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Hwn yw un o brofion cyntaf pwerau newydd y Cynulliad, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni fel Pwyllgor yn craffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ofalus iawn. Felly, mae        angen i ni glywed barn cymaint o unigolion a sefydliadau ag sy’n bosibl. ‘Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn i ymweld â’n gwefan a rhoi eu safbwyntiau inni.” Byddai’r Pwyllgor yn croesawu barn gan rai sydd â diddordeb ar y cwestiynau a ganlyn:
  1. Pam fod angen cynllun gwneud iawn?
  2. A yw’r mesur arfaethedig yn cyflawni amcan y polisi?
  3. Beth yw safbwyntiau rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio gyda system gwneud iawn?
  4. Beth fydd agweddau ymarferol sicrhau fod y system yn gweithio ac a yw’r mesur arfaethedig yn darparu ar eu cyfer?
  5. A  yw’n briodol fod cymaint yn cael ei wneud trwy reoliadau, h.y. bydd manylion unrhyw gynllun neu gynlluniau yn cael eu penderfynu gan Weinidogion yng Nghymru?
  6. A fyddai’n well pe bai’r Cynulliad yn gofyn i San Steffan am y pwerau  i gyflwyno ‘cynllun dim bai’?
Mae rhagor o wybodaeth am y mesur arfaethedig a’r broses ddeddfwriaethol, a sut i ymateb i’r ymgynghoriad, ar gael yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation.htm Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw Medi 14. Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y Cynulliad yn ystod y tymor nesaf yn gwahodd rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth lafar i’r Cynulliad.