Pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur

Cyhoeddwyd 07/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/04/2017

​Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

Daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r casgliad bod y gyfraith yn angenrheidiol er mwyn cynnal y bartneriaeth gymdeithasol - sef dull Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli staff yn y sector cyhoeddus a chysylltiadau diwydiannol yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Bil yn cynnig datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Undebau Llafur 2016 a basiwyd gan Senedd y DU mewn perthynas ag ‘awdurdodau datganoledig yng Nghymru’. Yn benodol, byddai’r Bil yn gwrthdroi:

  • Cyfyngiadau ar gyflogwyr mewn cysylltiad â didynnu taliad tanysgrifiadau undeb o gyflogau;

  • Pwerau i’w gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth am amser cyfleuster ynghyd â gosod gofynion ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus mewn cysylltiad â thalu am amser cyfleuster; ac

  • Y trothwy cefnogaeth o 40 y cant ar gyfer gweithredu diwydiannol sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus pwysig.

“Mae’n amlwg o’r dystiolaeth a gawsom fod y trefniadau a oedd ar waith cyn Deddf 2016 yn gweithio yn effeithiol yng Nghymru a’u bod yn ffafrio dull y bartneriaeth gymdeithasol, sef dull y mae Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus wedi ymrwymo iddo,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Nid dull heb densiynau nac anawsterau yw’r dull partneriaeth, ond mae’n ymddangos ei fod yn ateb dibenion Cymru yn dda.

“Mae achosion o weithredu diwydiannol yn y DU ar eu hisaf ers blynyddoedd a gwelwyd llai o streiciau yng Nghymru nag yn Lloegr yn y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, yng Nghymru, llwyddwyd i osgoi streic y meddygon iau yn Lloegr.

“Mae’n amlwg i ni fod llwyddiant y bartneriaeth gymdeithasol yn dibynnu ar gydraddoldeb rhwng partneriaid a bod y darpariaethau perthnasol yn Neddf 2016 yn debygol o effeithio ar hyn, i wahanol raddau.

“O ystyried yr uchod, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn cytuno ei bod yn angenrheidiol datgymhwyso’r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2016”.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod a ddylai gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, fel y mae’r Pwyllgor yn argymell. Os cytunir yr egwyddorion cyffredinol, bydd y Bil yn symud i Gyfnod 2 ym mhroses ddeddfu’r Cynulliad.