Pwyllgor yr Amgylchedd i drafod iawndal gwartheg yn ei gyfarfod olaf

Cyhoeddwyd 22/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yr Amgylchedd i drafod iawndal gwartheg yn ei gyfarfod olaf

Yn ei gyfarfod olaf, bydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn trafod iawndal i ffermwyr sydd â gwartheg a effeithiwyd gan TB. Cyn hyn, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad sy’n gwneud amryw o argymhellion ynghylch sut mae trin y broblem hon ac mae wedi parhau i fonitro’r pwnc a chwilio am atebion. Yn yr un cyfarfod, bydd yr Aelodau’n trafod cyllideb  yr amgylchedd, cynllunio a chefn gwlad a strategaeth laeth ddrafft Llywodraeth y Cynulliad. Byddant hefyd yn gwrando ar dystiolaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ynghylch gweithredu strategaeth amgylcheddol ar gyfer Cymru.  Bydd y Pwyllgor hefyd yn derbyn gwybodaeth am waith yr UE wrth addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Dywedodd Glyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Hwn fydd cyfarfod olaf y Pwyllgor yn yr ail Gynulliad a gweddus felly fydd inni drafod nifer o faterion hynod bwysig. Yn dilyn yr etholiadau, yn y trydydd Cynulliad, bydd yn rhaid inni ymateb i’r her a ddaw yn sgil y pwerau newydd ac nid ydym yn sicr eto ynglyn â ffurf y Pwyllgorau. Yn y cyfarfod hwn, byddwn yn trafod yr hyn a drosglwyddwn ac yn amlinellu’r materion y gallai unrhyw Bwyllgor olynol eu hystyried. Yn fy marn i, bydd materion megis TB mewn gwartheg, newid yn yr hinsawdd a rheoli gwastraff yn dal i fod yn her aruthrol.”