Pwysigrwydd dathlu hanes pobl dduon – panel dylanwadol yn trafod y profiad o godi llais yn erbyn hiliaeth

Cyhoeddwyd 21/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2020

Bydd pedwar person dylanwadol o fyd chwaraeon, gwleidyddiaeth, diwylliant a'r cyfryngau yn rhannu eu profiadau personol a phroffesiynol mewn trafodaeth am herio hiliaeth a diffyg cydraddoldeb yng Nghymru.

Mae'r pedwar person a restrir isod wedi codi llais dros gydraddoldeb o fewn eu meysydd eu hunain. Mi fyddan nhw'n trafod y profiadau o wneud hynny yn y drafodaeth sy'n cael ei chynnal gan Senedd Cymru yn rhan o Mis Hanes Pobl Dduon. Mae cyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan yn y drafodaeth drwy gyflwyno cwestiwn i'r panel wrth gofrestru ar Eventbrite

Ashton Hewitt, chwaraewr rygbi undeb proffesiynol o Gasnewydd

Eric Ngalle Charles, awdur, bardd, dramodydd ac actor a aned yn Camerŵn

Rosie Harris, sylfaenydd a chyfarwyddwr cylchgrawn Style in the City o'r Bari

Y Cynghorydd Daniel De'Ath, Y Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd

Mae'r drafodaeth yn cael ei ffrydio'n fyw ar www.senedd.tv ac YouTube am 17.30 ddydd Gwener 23 Hydref. Mi fydd modd gwylio'r sesiwn eto ar-lein ar ôl y digwyddiad.

Llywydd y Senedd Elin Jones AS sy'n cadeirio'r sgwrs ac mi fydd y panel yn trafod pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, beth sy'n eu hysgogi nhw i godi llais, pwy yw eu harwyr a beth sy'n eu hysbrydoli, a pwysigrwydd dysgu a chodi proffil hanes a threftadaeth pobl dduon, a grym y protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter).

Unigolion dylanwadol sydd wedi codi llais yn erbyn hiliaeth


Ashton Hewitt

Yn ôl Ashton Hewitt, mae addysg yn holl bwysig ar gyfer cymdeithas sy'n fwy hafal a goddefgar.

"Yn anffodus, dwi ddim yn credu y byddwn ni fyth yn byw mewn cymdeithas heb unrhyw hiliaeth, ond rwy'n credu'n bendant fod momentwm y mudiad Black Lives Matter wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi gwella dealltwriaeth llawer o bobl a oedd, efallai, erioed wedi ystyried y peth o ddifri o'r blaen. Gyda hyn mi fydd y lleisiau yn erbyn hiliaeth yn cynyddu a fydd, gobeithio, yn dod a ni yn nes at sicrhau cydraddoldeb i bobl dduon. I mi, mae addysg yn gwbl allweddol." - Ashton Hewitt, asgellwr y Dreigiau

Cafodd asgellwr y Dreigiau ei eni a'i fagu yng Nghasnewydd, ac mae'n llysgennad ar gyfer Positive Futures, sefydliad sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig yng Ngwent. Mae wedi siarad droeon am ei brofiadau personol ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o fudiad Mae Bywydau Du o Bwys ac, yn ôl y sôn, Ashton wnaeth sbarduno Twitter i wahardd y sylwebydd dadleuol Katie Hopkins.


Eric Ngalle CharlesAwdur, bardd, dramodydd ac actor yw Eric Ngalle Charles a aned yn Camerŵn. Ei ddiddordeb ef yw llenyddiaeth a'i ddatblygiad a sut all llên ac addysg adlewyrchu amrywiaeth yng Nghymru yn well. Mae ei lyfr Hiraeth-Ezorlirzoli wedi cysylltu Cymru â Camerŵn ac mae wedi teithio yn ôl gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a'r bardd a'r awdur Mike Jenkins.

Mae Eric Ngalle Charles yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru a Grŵp Cynghori Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Yn ddiweddar, dewiswyd Eric fel un o'r deg awdur BAME gorau yn y Deyrnas Unedig ar restr Jackie Kay yn Guardian Books a cafodd ei waith ei ddangos yng ngŵyl Lenyddiaeth Cheltenham fel rhan o'r Arddangosfa Lenyddiaeth Ryngwladol.


Rosie Harris Rosie Harris yw sylfaenydd a chyfarwyddwr cylchgrawn Style of the City. Fel cyfarwyddwr brand cyfryngau ac fel menyw o liw, mae Rosie'n teimlo'n angerddol dros hyrwyddo amrywiaeth yng Nghymru ac yn rhannu ei phrofiadau ei hun er mwyn ysgogi newid yn ein cymunedau. 

"Fe wnaeth Black Lives Matter fy atgoffa am yr anghyfiawnder sydd wedi bod, ac eto mae mor gyffredin o hyd. Fel sylfaenydd cylchgrawn Style of the City, dwi'n benderfynol o gynnal a pharhau y sgwrs fel nad yw digwyddiadau heddiw yn troi'n ddim byd mwy na chofnod o drychineb arall, ond yn hytrach yn rhywbeth sy'n rhoi gobaith ac yn sbarduno rhagor o newid. Byddwn ni fel brand yn annog ein darllenwyr i fod yn rhan o'r newid hwn, yn meithrin mwy o amrywiaeth ac yn rhoi llwyfan ar gyfer dathlu lleisiau du yn ein cymuned." - Rossie Harris, sylfaenydd Style of the City. 

Magwyd Rosie yn y Barri, ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl 10 mlynedd yn gweithio yn y cyfryngau yn Llundain. Pan welodd fod galw am sefydlu cylchgrawn lleol ffres yn y brifddinas, fe aeth Rosie ati i greu ei brand deinamig 'Style of the City' i ddathlu y gorau o Gymru.


Y Cynghorydd Daniel De'AthEtholwyd y Cynghorydd Daniel De'Ath yn Arglwydd Faer Caerdydd yn 2019 – ef yw'r 115fed Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd, a'r cyntaf o dreftadaeth ddu. Mae'n cytuno bod addysg hanes, treftadaeth a diwylliant pobl dduon yn allweddol er mwyn deall hiliaeth a sefyll yn ei erbyn.

"Sbardunodd protestiadau rhyngwladol #BlackLivesMatter ymrwymiad gan unigolion a sefydliadau i addysgu eu hunain am hanes, treftadaeth a diwylliant pobl dduon - fel rhan o wella dealltwriaeth o hiliaeth ac er mwyn uno yn ei erbyn.

"Os yw'r ymrwymiad hwnnw yn mynd i greu newid go iawn, y tu hwnt i negeseuon cyfryngau cymdeithasol, mae angen i bawb, o bob cymuned, gofleidio Mis Hanes Pobl Dduon fel man cychwyn ar gyfer archwilio, darganfod a dathlu hanes, treftadaeth a diwylliant du - yn y gorffennol ac heddiw. O'r llwyddiannau a'r cyfraniadau anhygoel, i'r nifer fawr o straeon sydd heb eu clywed a'r rhwystrau i sydd wedi arafu gynnydd. Mae'n hyfryd bod Senedd Cymru yn chwarae rhan mor gadarnhaol wrth wneud hyn a dathlu hanes a llwyddiant pobl dduon. " - Y Cynghorydd Daniel De'Ath, Arglwydd Faer Caerdydd

Magwyd y Cynghorydd De'Ath yn Swydd Warwick, a symudodd i Gaerdydd i weithio fel Ymchwilydd yn Senedd Cymru. Mae Daniel wedi cynrychioli'r Plasnewydd, y Rhath fel Cynghorydd Sir ers 2012.


Darlith a blas ar arddangosfa Windrush

Y drafodaeth yw un o ddigwyddiadau'r Senedd ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, sydd hefyd yn cynnwys darlith ar sianel YouTube y Senedd gan yr hanesydd Abu-Bakr Madden Al-Shabazz yn archwilio etifeddiaeth Hanes y Windrush yng Nghymru.

Hefyd blas ar arddangosfa ar wefan Senedd Cymru sy'n rhannu straeon y genhedlaeth Windrush yng Nghymru yn eu geiriau eu hunain, sydd wedi eu rhoi ar gof a chadw yn rhan o brosiect Race Council Cymru.