Rhaid dysgu gwersi am y cynnig gofal plant i Gymru yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi o'r cynllun peilot gofal plant presennol yng Nghymru a'u gweithredu cyn i'r cynllun gwerth £100 miliwn y flwyddyn gael ei gyflwyno'n genedlaethol, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Heddiw, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cyhoeddi ei Adroddiad Pwyllgor ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). 

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Rydym yn croesawu'r camau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn ei gwneud yn haws i rieni wneud cais am y cynnig gofal plant. Fodd bynnag, rydym yn pryderu ynghylch i ba raddau y mae'r cynnig gofal plant cenedlaethol arfaethedig, sy'n cael ei hwyluso gan y Bil a'i dreialu mewn gwahanol ardaloedd o Gymru ar hyn o bryd, yn targedu'r rhai sydd fwyaf angen y cymorth. 

“Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru y dylai creu system profi cymhwysedd cenedlaethol, i'w weinyddu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), ei gwneud yn haws i rieni wneud cais ac ysgafnhau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol.”

“Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod cyfyngu darpariaethau'r Bil i blant rhieni sy'n gweithio yn peryglu cynyddu'r bwlch sydd eisoes yn bodoli rhwng ein plant mwyaf difreintiedig a breintiedig mewn perthynas â’u datblygiad a chyrhaeddiad addysgol.

“Oherwydd hynny, rydym yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i ymestyn ei ddarpariaethau y tu hwnt i rieni sy'n gweithio, i gynnwys rhieni sy'n chwilio am waith drwy ddilyn addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth.

“Credwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r Bil er mwyn gallu cynnwys categorïau eraill o rieni yn y dyfodol.

“Rydym hefyd yn poeni y bydd canolbwyntio ar blant tair a phedair oed yn rhwystro nod y Bil sef cael rhieni, yn enwedig mamau, yn ôl i'r gwaith. Gydag Arolwg Cenedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru ei hun yn canfod bod y galw am ofal plant ar ei uchaf rhwng 1 a 3 oed, rydym o'r farn y dylid ystyried adolygu'r grŵp oedran targed ar gyfer y cynnig.”

Mae saith o wyth Aelod o'r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Bydd yr adroddiad yn sail i'r ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol a fydd yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Cynulliad llawn ym mis Medi.

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 1 MB)